Chloe Tutton

Oddi ar Wicipedia
Chloe Tutton
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnChloe Tutton
Ganwyd (1996-07-17) 17 Gorffennaf 1996 (27 oed)
Pontypridd
Camp
GwladCymru
ChwaraeonNofio
CampDull broga
ClwbDinas Caerdydd
Diweddarwyd 7 Ebrill 2018.

Nofwraig o Gymru ydy Chloe Tutton (ganwyd 17 Gorffennaf 1996), sydd wedi cystadlu dros Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad a thros Prydain Fawr yn y Gemau Olympaidd. Mae hi'n cystadlu yng nghystadlaethau dull broga[1].

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Dechreuodd Tutton nofio ym mhwll nofio Ystrad Rhondda[2] cyn symud i ymuno â chlwb Dinas Caerdydd. Cafodd ei dewis yn rhan o dîm Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad 2014 yn Glasgow, Yr Alban ond methodd â chyrraedd y rowndiau terfynol yn y 100m dull broga ac yn y 200m dull broga[3]

Llwyddodd i sicrhau ei lle yn nhîm Prydain Fawr ar gyfer Gemau Olympaidd 2016 yn Rio de Janeiro, Brasil wrth dorri'r record Prydain ar gyfer y 200m dull broga ym Mhencampwriaethau Prydain yn Glasgow ym mis Ebrill 2016[4] a gorffenodd yn bedwerydd yn rownd derfynol y 200m dull broga[5].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Chloe Tutton". British Swimming. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-05. Cyrchwyd 2016-08-12. Unknown parameter |published= ignored (help)
  2. "Team GB's young Olympic swimmer Chloe Tutton heads to Rio planning for Tokyo". iNews. 2016-07-26. Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. "Swimming CG2014 Official Results Book" (PDF). Glasgow 2014 (pdf). Unknown parameter |published= ignored (help)
  4. "Rio 2016: Teenager Chloe Tutton sets new British breaststroke record". BBC Sport. 2016-04-13. Unknown parameter |published= ignored (help)
  5. "Rio Olympics 2016: Chloe Tutton appears to question Yulia Efimova". BBCSport. Unknown parameter |published= ignored (help)