Cesariaeth

Oddi ar Wicipedia
Cesariaeth
Enghraifft o'r canlynolmath o senedd Edit this on Wikidata

Athroniaeth wleidyddol sydd yn arddel ffurf ar lywodraeth awtocrataidd, yn debyg i'r unbennaeth boblogaidd a sefydlwyd gan Iŵl Cesar (100–44 CC) yng Ngweriniaeth Rhufain, yw Cesariaeth. Mewn system o'r fath, byddai'r unben yn cipio grym gyda chefnogaeth y lluoedd arfog, plaid wleidyddol, neu garfan o'r bobl, gan roi iddo fandad lled-boblogaidd. Wrth atgyfnerthu ei rym, mae'r unben yn cael gwared â'r gwrthwynebiad iddo tra'n cadw rhith democratiaeth, er enghraifft drwy analluogi pwerau'r senedd, cynnal etholiadau anonest, a chamddefnyddio'r werinbleidlais. Yn ogystal, mae'n cyfyngu ar freintiau a grymoedd y dosbarthiadau uchaf, yn enwedig lle bo'r rheiny yn gwrthdaro ag amcanion yr awtocratiaeth, ond yn caniatáu iddynt gadw eu statws ar draul y dosbarthiadau isaf. Yn ei rethreg, mae'r unben yn mynegi egalitariaeth ac yn hawlio ei rym o gydsyniad y werin bobl.[1]

Gellir ystyried Bonapartiaeth yn ffurf ar Gesariaeth. Yn nechrau'r 20g, tybiodd yr athronydd gwleidyddol Oswald Spengler y byddai Cesariaeth yn disodli democratiaeth mewn gwledydd y Gorllewin.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Chris Cook, Macmillan Dictionary of Historical Terms, ail argraffiad (Llundain: Macmillan, 1990), t. 49.