Ceri Sherlock
Oddi ar Wicipedia
Cyfarwyddwr ffilm, teledu a theatr yw Ceri Sherlock.[1].
Ganwyd Ceri Sherlock yn Llanelli. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Dewi Sant, Coleg Llanymddyfri, King's College, Llundain a Prifysgol Califfornia, Los Angeles. Gweithiodd fel cyfarwyddwr o dan hyfforddiant ac fel cyfarwyddwr gyda Theatr Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru.
Ym 1993 cyfarwyddodd Sherlock Dafydd ar gyfer BBC 2. Ym 1995, enillodd ei ffilm Gymraeg Branwen wobr y Ffilm Orau yn yr Ŵyl Ffilmiau Celtaidd.[2]
Bu Sherlock yn Olygydd Comisiynu gydag S4C cyn symud i'r BBC yn 2006. Arferai fod yn Athro Ymweliadol ym Mhrifysgol Morgannwg, ond ad-leolodd i Hong Kong yn 2010 lle cafodd ei benodi'r Athro a Phennaeth Cyfarwyddo Academi Celfyddydau Creadigol Hong Kong.[3]