Cerddoriaeth Iwerddon
Gwedd
Mae cerddoriaeth draddodiadol Iwerddon i'w chlywed hyd heddiw mewn tafarndai ac ar strydoedd y wlad. Mae ganddi rythmau cadarn a genir gan amlaf ar y drwm Gwyddelig, y bodhrán. Ymhlith yr offerynnau eraill a genir yw'r delyn, y gitâr acwstig, y ffidil, y pib, yr acordion, a'r ffliwt. Mae cerddoriaeth werin Wyddelig yn ailadrodd llawer. Gan amlaf cenir un alaw gan gyflwyno gwahanol offerynnau ar wahanol adegau.
Yn ogystal â'r traddodiad gwerin, mae cantorion a cherddorion Gwyddelig mewn cerddoriaeth fodern yn cynnwys U2, Westlife, Boyzone, Enya, Sinéad O'Connor, a The Pogues.