U2
Oddi ar Wicipedia
Madison Square Garden, Dinas Efrog Newydd yn 2005.
Mae U2 yn fand roc o Iwerddon, ac un o'r bandiau mwyaf poblogaidd erioed. Daethont i'r amlwg yng nghanol y 1980au, yn enwedig ar ôl perfformiad cofiadwy yn Wembley Stadium ar gyfer y cyngerdd Live Aid yn 1985. Maent wedi gwerthu dros 100 miliwn o recordiau yn ystod eu gyrfa, ac hefyd wedi rhyddhau sawl albwm llwyddiannus iawn, gan gynnwys The Joshua Tree (1987) ac Achtung Baby (1991).