Cerddorfa Plant Cenedlaethol Prydain Fawr (NCO)

Oddi ar Wicipedia
Cerddorfa Plant Cenedlaethol Prydain Fawr
Enghraifft o'r canlynolcerddorfa Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1978 Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.nco.org.uk/ Edit this on Wikidata

Mae Cerddorfa Plant Cenedlaethol Prydain Fawr, a adnabyddir fel NCO, yn elusen gofrestredig sy’n darparu hyfforddiant cerddorfaol i blant 8 i 14 oed.[1] Mae'r sefydliad yn cynnwys tair cerddorfa breswyl a phedair cerddorfa ddi-breswyl. Ceir mynediad trwy glyweliad yn flynyddol ac mae dros 640 o gerddorion ifanc yn cael eu dewis i chwarae yn y cerddorfeydd.

Hanes[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd NCO yn 1978 gan Vivienne Price MBE. Roedd Price yn athrawes ffidil a oedd wedi sefydlu nifer o gerddorfeydd lleol i blant yn Surrey, ond roedd yn ymwybodol iawn o'r diffyg cyfleoedd cenedlaethol i gerddorion iau. Roedd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Prydain Fawr (NYO) wedi ei sefydlu yn 1948. Roedd hefyd llawer o gerddorfeydd ieuenctid rhanbarthol ar gael. Ond roedd y plant iau yn cael trafferth ffitio i mewn yn gymdeithasol ac felly sefydlodd Price NCO.

Y Cerddorfeydd[golygu | golygu cod]

Yr arweinydd, Daniel Harding, bu'n aelod o'r Gerddorfa yn 1988

Mae tair cerddorfa breswyl ar gyfer oedrannau gwahanol:

  • Prif Gerddorfa
  • Cerddorfa dan 13 oed
  • Cerddorfa dan 12 oed

Mae pob cerddorfa genedlaethol yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn ar gyrsiau preswyl ledled y DU. Mae'r Brif Gerddorfa a Cherddorfa Dan 13 yn cael cwrs wyth diwrnod yn y gwanwyn a chwrs wyth diwrnod arall yn yr haf, y ddau yn gorffen gyda chyngerdd cyhoeddus mewn lleoliad mawreddog. Yn ogystal, mae'r Brif Gerddorfa yn cael penwythnos di-breswyl yn Llundain yn y gaeaf. Mae'r Gerddorfa Dan 12 yn cael 2 gwrs 7 diwrnod y flwyddyn gydag un cyngerdd preifat ac un cyhoeddus ar ôl yr ail gwrs.

Cerddorfeydd Prosiect[golygu | golygu cod]

Mae hefyd pedair cerddorfa 'prosiect' sy'n cyfarfod mewn lleoliadau gwahannol 2 benwythnos y flwyddyn.

Cyngherddau[golygu | golygu cod]

Daw pob cwrs i ben gyda chyngerdd. Mae'r cerddorfeydd prosiect yn perfformio ar gyfer teulu a ffrindiau. Yn y gorffenol, mae'r Prif Gerddorfeydd wedi perfformio yn: Symphony Hall, Birmingham, Royal Albert Hall, Bridgewater Hall, Southbank Centre, The Sage Gateshead, Colston Hall, Neuadd Dewi Sant, Neuadd y Ddinas Leeds, Neuadd y Ddinas Birmingham, The Anvil, Basingstoke, Brighton Dome, Canolfan y Barbican a Neuadd Gyngerdd Frenhinol Nottingham.

Cyn-fyfyrwyr[golygu | golygu cod]

Nicola Benedetti, aelod i'r NCO yn 1995-98

Ar ôl gadael NCO mae'r rhan fwyaf o gerddorion yn symud ymlaen i gyfleoedd cerddorol eraill. Roedd cystadleuaeth Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC 2010 yn cynnwys 25 o gystadleuwyr yn rownd derfynol y categorïau, ac roedd 13 ohonynt wedi mynychu NCO!

Cyn-fyfyrwyr nodedig[golygu | golygu cod]

Enw Offeryn/Proffesiwn Aelodaeth NCO
Janice Graham Feiolinydd 1980-2
Daniel Harding Arweinydd 1988
Guy Johnston Sielydd 1992-5
Robin Ticciati Arweinydd 1992-5
Nicola Benedetti Feiolinydd 1995-8
Katherine Bryan Ffliwtiwr 1994-5
Martin James Bartlett Pianydd 2007-9
Charlie Lovell-Jones Feiolinydd 2007-12

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "At NCO Music Matters | The National Children's Orchestras of Great Britain". www.nco.org.uk. Cyrchwyd 2024-01-30.