Cefn Du
Oddi ar Wicipedia
| Cefn Du Yr Wyddfa |
|
|---|---|
| Llun | Cefn Du o'r dwyrain, yn dangos y chwareli |
| Uchder | 441m |
| Lleoliad | {{{lleoliad}}} |
| Gwlad | Cymru |
Bryn sy'n ffurfio'r rhan fwyaf gogleddol o fynyddoedd Yr Wyddfa yn Eryri yw Cefn Du, hefyd Cefn-du. Saif i'r gorllewin o bentref Llanberis ac i'r de o Lanrug. Mae Bwlch y Groes yn ei wahanu oddi wrth gopa Moel Eilio yn y de.
Ceir nifer o chwareli llechi ar ei lethrau dwyreiniol, yn cynnwys Chwarel Glynrhonwy a Chwarel Cefn Du.