Caws Parmesan
Oddi ar Wicipedia
Math o gaws o'r Eidal yw caws Parmesan (Eidaleg: Parmigiano; yn fwy penodol, Parmigiano reggiano). Mae'n gaws caled, cryf a ddefnyddir gan amlaf gyda bwydydd pasta.
Prif ardal cynhyrchu caws Parmesan yw rhanbarth Emilia-Romagna yng ngogledd canolbarth y wlad. Fe'i henwir ar ôl dinas hynafol Parma yn y rhanbarth honno, ond mae'r ardal cynhyrchu yn ymestyn ar draws Emilia-Romagna.
Fel rheol mae'r caws yn cael ei grafu i roi ar fwyd.