Cawr Cerne Abbas

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Cawr mewn amlinelliad.
Cawr Cerne Abbas.

Amlinelliad o ddyn noeth cawraidd yw Cawr Cerne Abbas (Saesneg: Cerne Abbas giant neu The Giant) sydd wedi'i gerfio ar wyneb bryn o galchfaen ger pentref Cerne Abbas yn swydd Dorset, Lloegr. Nid oes cytundeb gan archeolegwyr am oed y gwaith celf hwn na'i bwrpas, ond mae'n debygol ei fod yn cynrychioli duw Celtaidd ac yn dyddio o gyfnod cynhanes.

Ffigwr anthropomorffaidd ydyw, felly, o ddyn noeth gyda phastwn mawr yn ei law dde. Mae ei freichiau ar led. Nodwedd amlycaf y cerflun yw codiad enfawr y dyn. Mae hyn yn awgrymu i ei fod yn symbol o ffrwythlondeb. Mae eraill yn ystyried fod y Cawr yn perthyn i ddosbarth o dduwdiau a gynrychiolir gan y duw Groeg Ercwlff (neu Heracles).

Mae'r ffigwr yn mesur 180 troedfedd (55 m) o daldra a 167 troedfedd (51 m) ar draws. Mae'r ffosydd gwynion sy'n creu'r aamlinelliad yn mesur tua throedfedd ar draws ar gyfartaledd. Mae'r garreg sialc dan y pridd yn golygu fod yr amlinelliad yn wyn ac yn sefyll allan o bell.

Mae tarddiad y Cawr yn ansicr. Mae rhai yn dadlau ei fod yn waith o Oes yr Haearn neu o gyfnod y Rhufeiniaid ym Mhrydain. Mae eraill yn cynnig nad ydyw mor hen â hynny mewn gwirionedd. Mae'r cofnod cyntaf ohono yn dyddio o 1694.

Ceir sawl chwedl a thraddodiad llên gwerin am y Cawr yn lleol. Arferai pobl leol godi Pawl Haf ar y safle a byddai parau di-blant yn dawnsio o'i gwmpas er mwyn i'r merched ffrwythloni. Credid y byddai merch a gysgai ar y ffigur yn ffrwythloni a bod modd i gwpl anffrwythlon ddod yn ffrwythlon drwy gael cyfathrach rywiol ar y Cawr, yn enwedig ar ben ei bidyn.

Ers 1922 mae'r Cawr a'r tir o'i gwmpas yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: