Cawl cregyn bylchog

Oddi ar Wicipedia
Cawl cregyn bylchog
Enghraifft o'r canlynolchowder Edit this on Wikidata
Mathcawl pysgod, bwyd, clam dish Edit this on Wikidata
Yn cynnwysclam Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Mae cawl cregyn bylchog yn wreiddio o dwyrain yr Unol Daleithiau

Mae cawl cregyn bylchog (clam chowder) yn fath o gawl sy'n cynnwys cregyn bylchog a potes. Yn ogystal â chregyn bylchog, mae cynhwysion cyffredin yn cynnwys tatws wedi'u deisio, winwns a seleri. Ni ddefnyddir llysiau eraill fel arfer, ond weithiau gellir ychwanegu stribedi o foron bach, garnais o bersli neu ddail llawrwyf er mwyn ychwanegu lliw a blas. Credir y ddefnyddid cregyn bylchog mewn cawl oherwydd eu bod yn gymharol rhwydd i'w cynaeafu.[1] Mae cawl cregyn bylchog fel arfer yn cael ei bwyta gyda chracers hallt neu gracers wystrys bach hecsagonol.

Tarddodd y pryd o fwyd hwn yn Nwyrain yr Unol Daleithiau, ond erbyn hyn mae'n gyffredin i'w weld mewn bwytai ledled yr UDA, yn enwedig ar ddydd Gwener pan oedd Catholigion Americanaidd yn draddodiadol yn ymatal rhag bwyta cig. Mae nifer o amrywiadau rhanbarthol yn bodoli, ond y ddau fwyaf cyffredin yw cawl cregyn bylchog Lloegr Newydd (neu'r cawl "gwyn") a chawl cregyn bylchog Rhode Island / Manhattan (neu'r cawl "coch").

Hanes[golygu | golygu cod]

Cawl cregyn bylchog gyda chregyn bylchog cyfan
Cawl cregyn bylchog Manhattan

Cyflwynwyd yr amrywiaeth gynharaf a mwyaf poblogaidd o'r cawl, cawl cregyn bylchog Lloegr Newydd, i'r rhanbarth gan ymsefydlwyr Ffrengig, Prydeinig, neu o Nova Scotia. Daeth yn gyffredin yn y 18g. Cyhoeddwyd y rysáit gyntaf ar gyfer amrywiaeth arall, cawl cregyn bylchog Manhattan, sy'n adnabyddus am ddefnyddio tomatos ac o ganlyniad ei liw coch, ym 1934. Ym 1939, bu talaith Maine yn trafod deddf a fyddai’n gwahardd defnyddio tomatos mewn cawl cregyn bylchog, ac felly'n gwahardd y ffurf “Manhattan”.

Amrywiadau[golygu | golygu cod]

Ers i boblogrwydd cawl cregyn blychog Lloegr Newydd ledu ledled yr Unol Daleithiau yn y 19eg a'r 20g, mae llawer o ranbarthau eraill wedi cyflwyno eu troeon lleol eu hunain ar y rysáit draddodiadol:

  • Cawl cregyn bylchog Delaware: yn cynnwys ciwbau cig moch, dŵr hallt, tatws, winwns deisio, cregyn bylchog quahog, menyn, halen a pupur. Roedd yn boblogaidd yng nghanol yr 20fed canrif.
  • Cawl cregyn bylchog Hatteras: yn cynnwys potes, bacwn, tatws, winwns, blawd i'w drwchu, ac llawer o pupur gwyn neu du. Weithiau cafwyd ei bwyta gyda saws poeth. Cafwyd ei bwyta trwy gydol rhanbarth Outer Banks yng Ngogledd Carolina.
  • Cawl cregyn bylchog Lloegr Newydd: wedi seilio ar llaeth neu hufen, felly y mae'n fwy drwchus na'r amrywiaethau eraill. Yng Nghanol Orllewin yr Unol Daleithiau elwir hwn yn cawl cregyn bylchog Boston.
  • Cawl cregyn bylchog Manhattan: yn cynnwys potes coch wedi seilio ar tomatos. Dechreuwyd defnyddio tomatos yn lle llaeth gan mewnfudwyr Portiwgeaidd i Rhode Island.
  • Cawl cregyn bylchog Long Island: mae'r rysáit hyn rhan cawl cregyn bylchog Lloegr Newydd a rhan cawl cregyn bylchog Manhattan. Mae hwn yn jôc yr enw, gan fod Long Island hanner ffordd rhwng Manhattan a Lloegr Newydd.
  • Cawl cregyn bylchog Minorca: yn cynnwys sail o domatos, pupur datil, a chili poeth megis habanero. Mae hwn yn amrywiad speislyd a werthir ym mwytai yn agos i St Augustine yn Florida. Credir daeth a'r datil i St Augustine gan mewnfudwyr o Menorca, a gellir ond tyfu mewn dau le: Menorca yn Sbaen, a St Augustine, Florida.[2]
  • Cawl cregyn bylchog Rhode Island: yn cynnwys sail tomatos a tatws, ond yn wahanol i'r amrywiad Manhattan, nid yw hwn yn cynnwys unrhyw darnau tomatos neu llysiau eraill.
  • Cawl creygyn bylchog clir: yn cynnwys sail o potes clir. Mae ganddo lliw fwy clir ac mae'n fwy tennau na'r amrywiaethau eraill. Weithiau bydd ganddo cregyn gleision yn ogystal â'r cregyn bylchog.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "History of Chowder, History of Clam Chowder, History of Fish Chowder". Whatscookingamerica.net. Cyrchwyd 2007-12-01.
  2. Jean Andrews. A Botanical Mystery: The Elusive Trail of the Datil Pepper to St. Augustine: Jean Andrews. Jstor.org. JSTOR 30148816.Nodyn:Subscription required