Catrin Fawr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Catrin II (Catrin Fawr) o Rwsia

Catrin II neu Catrin Fawr (Rwseg: Екатерина II Великая, Yekaterina II Velikaya; (1729 - 1796) oedd Ymerodres Rwsia o 28 Mehefin 1762 hyd ei marwolaeth, teyrnasiad o 34 mlynedd, yr hiraf wedi sefydliad Ymerodraeth Rwsia yn 1721.

Ganed Catrin fel Sophie Augusta Frederica yn Stettin, yn awr Szczecin yng Ngwlad Pwyl ond yr adeg honno yn deyrnas fechan yn yr Almaen. Dewiswyd hi yn wraig i etifedd y tsar, Pedr o Holstein-Gottorp. Dywedir fod Catrin yn benderfynol o ddysgu Rwseg mor fuan ag y gallai, ac ar 28 Mehefin 1744 daeth yn aelod o Eglwys Uniongred Rwsia gyda'r enw Catrin Alecseyefna (Yekaterina neu Ekaterina). Priodwyd hi a Pedr ar 21 Awst 1745.

Ni fu'r brodas yn llwyddiant, a dechreuodd Catrin ar gyfres o garwriaethau. Ar farwolaeth yr Ymerodres Elizabeth yn Ionawr 1762 daeth Pedr yn tsar fel Pedr III. Ym mis Gorffennaf bu gwrthryfel yn ei erbyn, a chyhoeddwyd Catrin yn ymerodres. Llofruddiwyd Pedr yn fuan wedyn. Cyhuddwyd Catrin o fod a rhan yn y llofruddiaeth ambell dro, ond nis oes tystiolaeth i gadarnhau hyn.

Yr oedd Catrin yn darllen yn eang, ac yn llythyru a rhai o ddeallusion amlycaf Ewrop megis Voltaire a Diderot. Ymestynnodd ffiniau Ymerodraeth Rwsia i'r de ac i'r gorllewin, gan gynnwys Belarus a Lithuania. Ychwanegodd tua 200,000 milltir sgwar (518,000 km²) at diriogaeth yr ymerodraeth. Gorchfygwyd Twrci mewn rhyfel rhwng 1768 a 1774 ac eilwaith mewn rhyfel rhwng 1787 a 1792.

Cafodd Catrin strôc ar 5 Tachwedd, 1796, a bu farw'r diwrnod wedyn. Dilynwyd hi gan ei mab, Paul I.

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:


Tywysogion a tsariaid Rwsia
Tsariaid Rwsia

Ifan IV | Fyodor I | Boris Godunov | Fyodor II | Ffug Dmitriy I | Vasiliy IV | Mihangel (Mikhail Romanov) | Aleksey | Fyodor III | Ifan V | Pedr I | Catrin I | Pedr II | Anna | Ifan VI | Elisabeth | Pedr III | Catrin II | Pawl I | Alexander I | Niclas I | Alexander II | Alexander III | Niclas II