Cath-Wrachod

Oddi ar Wicipedia
Cath-Wrachod
Man preswylBetws-y-coed Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwrach Edit this on Wikidata

Gwrachod neu 'wragedd hysbys' chwedlonol oedd Y Cath-Wrachod a oedd yn byw ym Metws-y-Coed, Gwynedd.

Yn ôl y chwedl, roedd tafarn ym Metws-y-Coed lle byddai pethau pobl yn cael eu dwyn o'u ystafelloedd.

Un noson, aeth dyn hysbys o’r enw Esmor Prys (neu 'Huw Llwyd' mewn fersiwn arall o'r stori) i aros yn y dafarn. Mi gwrddodd â’r ddwy chwaer oedd yn rhedeg y dafarn, ac mi gafodd sgwrs hir â’r ddwy. Wedi iddo gael swper, cafodd ei ddangos i’w ystafell wely.[1]

Roedd yn gwybod bod rhywbeth yn debygol o ddigwydd yn ystod y nos, felly esgusododd gysgu drwy’r nos. Oddeutu hanner nos daeth dwy gath i lawr y simne a thrwy’r lle tân i mewn i’w ystafell wely.

Dechreuodd y ddwy gath ymbalfalu drwy ei bethau, a chychwyn symud ei arian o gwmpas. Roedd cyllell gydag Esmor, a symudodd yn sydyn gyda’i gyllell a dal pawen flaen chwith un o’r cathod. Diflannodd y ddwy gath yn sydyn.

Y bore wedyn, aeth Esmor lawr i gael brecwast a sylweddoli mai dim ond un o’r chwiorydd oedd yn gweini. Gofynnodd iddi ble oedd ei chwaer, ac ymatebodd hi fod ei chwaer yn teimlo’n sâl.

Holodd Huw am ei chwaer eto ac eto tan iddi fynd ag ef i’r lolfa, lle roedd ei chwaer yn eistedd â’i llaw chwith mewn cadachau. Trodd Huw ati a dweud ‘Rwyf wedi tynnu gwaed ohonot, ac o’r pwynt hyn ymlaen ni fyddi di’n gallu chwarae triciau drwg ar unrhyw un.’

Trodd at yr ail chwaer, a thorri cwt bychan ar ei llaw hithau. ’Nawr rwyf i wedi tynnu gwaed oddi wrthot ti, ni fyddi di’n gallu gwneud unrhyw driciau gwael bellach chwaith.’

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Y stori'n llawn: llafargwlad.wordpress.com; adalwyd 29 Hydref 2019.