Castell Carlow
Oddi ar Wicipedia
Castell Normanaidd yn Iwerddon yw Castell Carlow (Gwyddeleg: Caisteal Cheatharlach), a leolir ger tref Carlow yn Swydd Carlow, talaith Leinster.
Fe'i codwyd yn y 13eg ganrif gan William Marshal, Arglwydd Leinster, mab-yng-nhyfraith "Strongbow" (Richard Fitz Gilbert de Clare, 2il Iarll Penfro). Fe'i lleolir ar ynys fechan ar afon Barrow sy'n amddiffyn y rhyd ar yr afon honno a'r fynediad i dref Carlow o gyfeiriad y gorllewin.