William Marshal, Iarll 1af Penfro

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Yn ôl rhai, William oedd jowstiwr gorau ei oes. Yn y llun hwn fe welwn Marshal yn disodli Baldwin de Guisnes

Milwr ac uchelwr Anglo-Normanaidd oedd William Marshal, 1af Iarll Penfro (1146 - 14 Mai 1219) (hefyd: William the Marshal a Guillaume le Maréchal). Galwyd ef gan yr hanesydd Steven Langton "y marchog mwyaf a fu erioed". Gwasanaethodd bedwar o frenhinoedd Lloegr gan dyfu o fod yn neb i fod yn un o ddynion mwyaf pwerus Ewrop ar y pryd. Galwyd ef gan bobloedd led led Ewrop fel "y Marshal".

Roedd yn dad i William Marshal, 2il Iarll Penfro.

Gwasanaethodd Richard a John, brenin Lloegr yn ffyddlon, gan amddiffyn yr ail rhag barwniau gwrthryfelgar Ffrainc a Lloegr yn Rhyfel 1af y Barwniaid. Roedd hefyd yn bresennol pan arwyddwyd y Magna Carta yn 1215. Ar farwolaeth John yn 1216, enwebwyd Marshal, a oedd yn 70 oed erbyn hynnu, yn Ddirprwy Frenin y frenhiniaeth ac amddiffynwr y brenin ifanc, Harri III. Gorchfygodd y gwrthryfelwyr a'u cefnogwyr Ffrengig, ac ail-gyhoeddodd y Magna Carta er mwyn cadarnhau'r heddwch. Gwaethygodd ei iechyd yn 1219, ac ar 14 Mai bu farw yn ei faenor yn Caversham, ger Reading. Ei olynydd fel Dirprwy Frenin oedd Hubert de Burgh, Iarll 1af Caint, ac olynwyd ef yn ei iarllaeth gan ei bum mab.

Gweler hefyd[golygu]