Carreg farch

Oddi ar Wicipedia
Carreg farch
Mathdodrefn stryd, adeiladwaith pensaernïol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Carreg farch hynafol yn wal Eglwys y Santes Tudwen, Llandudwen, Llŷn
Carreg farch fodern

Cymorth i fynd ar gefn ceffyl neu ar ben cart yw carreg farch (hefyd: carreg feirch),[1] a ddefnyddir gan amlaf gan bobl oedrannus, gwragedd a phlant. Fel mae'r enw yn ei awgrymu, carreg unigol neu ddau neu dri o gerrig oedd y deunydd traddodiadol ond ceir rhai pren yn ogystal, a heddiw mae rhai plastig yn cael eu defnyddio.

Yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon roedd cerrig meirch i'w gweld yn gyffredin iawn hyd at y 18g y tu allan i eglwysi, tai fferm a thafarndai. Roedd hynny mewn oes lle nad oedd dewis gan y mwyafrif o deithwyr ond marchogaeth neu gerdded, hyd yn oed yn oes y Goets Fawr, yn enwedig yn ardaloedd gwledig Cymru lle roedd y ffyrdd yn anaddas i goetsus. Gyda datblygiad y rheilffyrdd ac oes y modur darfu am y garreg farch draddodiadol ond ceir rhai modern, o bren neu blastig, ar gyfer dysgwyr ac eraill mewn canolfannau marchogaeth..

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Geiriadur Prifysgol Cymru, Cyfrol I, d.g. 'carreg'.