Carausius

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Darn arian wedi ei fathu dan Carausius

Roedd Marcus Aurelius Mausaeus Carausius (bu farw 293) yn gadfridog Rhufeinig a lwyddodd i gipio grym ym Mhrydain a rhan o Gâl am rai blynyddoedd. Roedd yn aelod o lwyth Belgaidd y Menapii, a ganed ef yn y rhan orllewinol o Batavia (Yr Iseldiroedd yn awr). Gwnaeth enw iddo'i hun yn ystod ymgyrch Maximian yn erbyn y Bagaudae yng ngogledd Gâl, ac o ganlyniad fe'i gwnaed yn bennaeth y llynges oedd yn gwarchod Prydain a gogledd Gâl, y Classis Britannica. Roedd i fod i'w gwarchod rhag ymosodiadau y Sacsoniaid a'r Ffranciaid, ond cododd amheuon ei fod yn gadael iddynt lanio ac anrheithio, yna yn eu dal wrth iddynt ddychwelyd a chymeryd yr ysbail iddo'i hun.

Gorchymynodd Maximian ei ddienyddio, ond ymateb Carausius oedd cipio grym ym Mhrydain a rhan o Gâl, gan ei gyhoeddi ei hun yn ymerawdwr. Llwyddodd i gadw grym am saith mlynedd, gan fathu ei arian ei hun. Yn 293 llwyddodd Constantius Chlorus, y Cesar yn y gorllewin, i gymeryd gogledd Gâl oddi wrtho a'i had-uno a'r ymerodraeth. Yr un flwyddyn llofruddiwyd Carausius gan ei weinidog cyllid, Allectus, a ddaeth yn rheolwr Prydain yn ei le.