Bagaudae

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Bagaudae neu Bacaudae yw'r enw Lladin a roddir ar grwpiau arfog, efallai gwylliaid o ryw fath, yng ngorllewin yr Ymerodraeth Rufeinig, yn enwedig gogledd-orllewin Gâl am gyfnodau o'r 3edd ganrif hyd y 5ed ganrif. Mae'r gair o darddiad Celtaidd, fel yn y gair Cymraeg a Llydaweg "bagad".

Credir fod y bagaudae yn gymysgedd o filwyr wedi dianc o'r fyddin, caethweision wedi dianc oddi wrth eu perchenogion, ac yn arbennig gwerinwyr wedi gadael eu tiroedd oherwydd pwysau cynyddol y trethi yn yn cyfnod yma a'r difrod yn dilyn ymosodiadau'r barbariaid.

Ceir y cofnod cyntaf amdanynt tua 284, dan arweiniaid Pomponius Élien. Gorchfygwyd hwy gan yr ymerawdwr Maximinianus yn 286. Llwyddodd yr ymerodron Aurelian a Probus i'w cadw dan reolaeth am gyfnod, ond bu gwrthryfel to dan Diocletian, gydag Amandus fel arweinydd. Bu rhagor o wrthryfeloedd y bagaudae yn ystod y 4edd ganrif. Yn 435, bu gwrthryfel dan Tibatto yn ôl y Chronica gallica; gorchfygwyd ef a'i gymeryd yn garcharor yn 437. Bu gwrthryfel yn 448 yng nghanolbarth Gâl, dan arweinydd o'r enw Eudoxe. Gorchfygwyd ef, a ffôdd i lys Attila.