Canolfan y Dechnoleg Amgen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Tren Dŵr i gludo ymwelwyr i fyny'r bryn ac i mewn i'r Ganolfan.

Sefydlwyd Canolfan y Dechnoleg Amgen (Saesneg: Centre for Alternative Technology) yn 1974 gan Gerard Morgan-Grenville ar safle hen chwarel lechi Llwyngwern ger Machynlleth, Powys. Mae'n canolbwyntio ar ddangos a dysgu dulliau'r dechnoleg amgen, ac mae'n agored i ymwelwyr. Yr enw gwreiddiol (hyd at tua 1982) yn y Gymraeg oedd 'Canolfan y Dechnoleg Arall'.

Bu cryn ddatblygiad yno'n ddiweddar gan ganolbwyntio ar gyrsiau codi adeiladau 'gwyrdd' (hunan gynhaliol) gan ddefnyddio ynni megis y gwynt a'r haul; yn ail, bu cryn ddatblygiad yno o ran garddio organig. Mae yno hefyd ganolfan newydd yn cael ei adeiladu: ystafelloedd dosbarth ar gyfer cyrsiau.

Dolenni allanol[golygu]

CymruPowys.png Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.