Camlas Panama

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cynllunau Camlas Panama a Chamlas Nicaragua (yr olaf heb ei adeiladu)

Camlas enfawr yng nghuldir Panama yw Camlas Panama sy'n cysylltu'r Cefnfor Iwerydd a'r Cefnfor Tawel

Mae dau grŵp o lociau ochr arfordir y Cefnfor Tawel ac un ochr arfordir Cefnfor Iwerydd. Mae drysau dur enfawr yn pwyso 745 tunnell, ac yn 21 medr o uchder ar loc Gatún. Ond o ganlyniad i'w hadeiladwaith crefftus gellir eu hagor gan beiriant 30 kW (40 marchnerth). Mae nifer o lociau ar y gamlas, ond maent i gyd mewn parau er sicrhau y gall y llongau fynd trwy'r gamlas i'r ddau gyfeiriad heb orfod colli gormod o amser.

Mae'r gamlas yn mynd trwy Lyn Gatún sydd 26m yn uwch na lefel y môr, ac mae lefel y Cefnfor Tawel yn 24 cm yn uwch na lefel Cefnfor Iwerydd, ac mae llanw'r Cefnfor Tawel yn fwy hefyd.

Hanes[golygu]

Am fod hi'n beryglus mynd o gwmpas yr Horn yn Ne America, roedd pobl wedi bod eisiau camlas dros culdir Panama ers meitin, ond dim ond yn y 1820au daeth hynny i ymddangos yn bosib. Roedd pobl yn ystyried camlas ar draws Nicaragua hefyd, ond ni adeiladwyd camlas o'r fath.

Llwyddodd Ferdinand de Lesseps, peiriannydd o Ffrainc adeiladu Camlas Suez yn yr Aifft, ac ef oedd y peiriannydd cyntaf i gynllunio'r gamlas, felly. Dechreuodd gwaith adeiladu ar 1 Ionawr, 1880. Beth bynnag, roedd aeiladu camlas Suez yn golygu cloddio tywod mewn diffeithdir, ond roedd pethau yn wahanol iawn yn Panamá: roedd rhaid cloddio cerrig mewn coedwig law a brwydro yn erbyn dilywiau yn ogystal ac afiechydon trofannol megis clefyd melyn a malaria. O'r roedd rhaid rhoi'r gorau i'r prosiect.

Beth bynnag, roedd Theodore Roosevelt, Arlywydd yr Unol Daleithiau yn hyderus fod y prosiect hwn yn bwysig i'w wlad—am resymau milwrol yn ogystal a rhai economaidd. Ar y pryd, roedd Panamá yn rhan o Colombia, a felly dechreuodd trafodaethau â Colombia i gael caniatâd adeiladu. O ganlyniad, arwyddwyd Cytundeb Hay-Herran ym 1903, ond ni chadarnhawyd y cytundeb gan Senedd Colombia. Felly roedd Roosevelt yn cefnogi'r mudiad annibyniaeth Panamáidd ac yn danfon llongau rhyfel i'r arfordir pan ddechreuodd frwydr. Beth bynnag, doedd gwrthwynebiad Colombia yn erbyn y chwyldro ddim yn cryf iawn (efallai er mwyn osgoi rhyfel yn erbyn yr Unol Daleithiau) a daeth Panamá i fod yn wlad annibyniol, a rhoddwyd Cylchfa'r Gamlas Panamá i'r Unol Daleithiau ar 23 Chwefror, 1904. Cafodd Panamá $10 miliwn am hynny (ar ôl Cytundeb Hay-Bunau-Varilla, 18 Tachwedd, 1903).

Yn ystod yr adeiladu, roedd arbennigwyr o'r Unol Daleithiau yn cryfhau mesurau iechyd ac yn dileu'r clefyd melyn. Roedd tri prif peiriannydd yn gweithio ar y gamlas: doedd y cyntaf, John Findlay Wallace, ddim yn llwyddiannus iawn, ac ymddiswyddodd ar ôl blwyddyn. Gwnaethpwyd y gwaith sylfaenol gan yr ail, John Stevens, ond fe ymddiswyddodd ym 1907. Cwblhawyd y gamlas gan y trydydd, y milwriad Americanaidd George Washington Goethals.

Cynllun de Lesseps oedd adeiladu camlas ar lefel y môr, ond methodd a ddatrys problem yr Afon Chagres a'i dilywau niferus yn ystod y tymor glaw. Felly roedd Stevens yn cynlluno camlas gyda lociau, ac adeiladu argae enfawr dros yr Afon Chagres ger Gatún. Defnyddir y llyn enfawr, a cafodd ei greu'n ganlyniad, i gynhyrchu trydan—ac i'w groesi ar long. Felly mae traean y gamlas yn ffordd ar hyd lyn artiffisial. Camp enfawr oedd cloddio ffordd trwy wahanfa ddŵr ger Culebra (Toriad Caillard erbyn hyn). Daeth gwaith adeiladu'r gamlas ar ben ar y degfed o Hydref, 1913, pan ffrwydrwyd Gamboa Dike gan yr Arlywydd Woodrow Wilson mewn seremoni swyddogol.

Roedd llawer o weithwyr o India'r gorllewin yn gweithio ar greu'r gamlas, a bu o leiaf 5,609 ohonyn farw wrth eu gwaith.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd llongau rhyfel yr Unol Daleithiau yn mynd trwy'r camlas i'r Môr Tawel a roedd Cylchfa'r Gamlas o dan reolaeth yr Unol Daleithiau hyd i 31 Rhagfyr, 1999. Daeth rheolaeth yr Unol Daleithiau ar ben yn ganlyniad i Gytundeb Torrijos-Carter (a arwyddwyd ym 1977 gan yr Arlywydd Jimmy Carter) oedd yn rhoi'r gamlas o dan reolaeth Panamá.