Cameron Norrie

Oddi ar Wicipedia
Cameron Norrie
Ganwyd23 Awst 1995 Edit this on Wikidata
Johannesburg Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Cristnogol Texas
  • Macleans College Edit this on Wikidata
Galwedigaethchwaraewr tenis Edit this on Wikidata
Taldra188 centimetr Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTCU Horned Frogs men's tennis Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeony Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Chwaraewr tenis Prydeinig yw Cameron Norrie (/ˈnɒri/ ; ganwyd 23 Awst 1995).[1] Yn ei yrfa mae wedi cyrraedd safleoedd uchaf o Rhif 10 yn y byd mewn senglau (ar 4 Ebrill 2022) a Rhif 123 mewn dyblau (ar 23 Awst 2021). Mae ganddo bedwar teitl sengl ATP Tour (gan gynnwys teitl Masters 1000 yn Indian Wells Masters 2021) ac un teitl dyblau. Mae Norrie wedi bod yn Rhif 1 Prydain mewn senglau dynion ers 18 Hydref 2021.

Bywyd cynnar a phersonol[golygu | golygu cod]

Ganed Norrie yn 1995 yn Johannesburg, De Affrica, i rieni o wledydd Prydain, ill dau yn ficrobiolegwyr: mae ei dad David yn dod o Glasgow a’i fam Helen yn dod o Gaerdydd.[2][3] Ar ôl lladrad yn 1998, pan oedd Norrie yn dair oed, symudodd ef a'i deulu i Auckland, Seland Newydd, lle mae ei rieni'n dal i fyw.[4] Yn 2011, yn 16 oed, symudodd i'r Deyrnas Unedig, a bu'n byw yn Llundain am dair blynedd cyn mynychu Prifysgol Gristnogol Texas yn Fort Worth o 2014 i 2017. Ym mis Mehefin 2017, daeth ei astudiaethau i ben yn TCU i droi'n broffesiynol yn ystod tymor cwrt glaswellt Taith ATP 2017.[5][6]

Ers troi'n broffesiynol mae wedi ei leoli yn Putney, de-orllewin Llundain (ger Wimbledon). [7] Pan ganslwyd y Indian Wells Masters ym mis Mawrth 2020 ar ddechrau’r pandemig, penderfynodd Norrie hedfan i Seland Newydd i fyw gyda’i rieni am weddill y flwyddyn.[8]

Mae Norrie yn cefnogi South Sydney Rabbitohs (clwb rygbi’r gynghrair Awstralia), tîm rygbi undeb cenedlaethol Crysau Duon Seland Newydd a Chlwb Pêl-droed Newcastle United.[9]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Cynrychiolodd Norrie Seland Newydd fel chwarewr iau, gan ddod yn Rhif 10 yn y byd, ond dim ond ychydig filoedd o ddoleri a gafodd gan Tennis Seland Newydd, felly bu'n rhaid i'w rieni ariannu ei deithiau tramor.[10] Yn bymtheg oed, teithiodd Ewrop am bum mis.

Ym mis Ebrill 2013, newidiodd Norrie ei deyrngarwch yn 17 i Brydain Fawr, cenedligrwydd ei ddau riant,[11] yn rhannol oherwydd y cyllid oedd ar gael,[12] gan dreulio tair blynedd yn Llundain ar ei ben ei hun. Bu'n byw a hyfforddi yn y Ganolfan Tenis Genedlaethol,[13] yn ddiweddarach yn byw gyda theulu lletyol am ddwy flynedd tra parhaodd â'i hyfforddiant. Yn 2013, cystadlodd ym mhob un o'r Gamp Lawn Iau; Pencampwriaeth Agored Awstralia i Seland Newydd, yna i Brydain Fawr ym Mhencampwriaeth Agored Ffrainc, Wimbledon ac US Open, ond dim ond un gêm enillodd, yn Awstralia.

Cafodd Norrie anhawster ar gylched tenis Ewrop, felly ystyriodd hyfforddi mewn prifysgol yn America (Intercollegiate Tennis Association).[14]

Yn 2022, cyrhaeddodd rownd gynderfynol Wimbledon gan chwarae yn erbyn Novak Djokovic.[15] Dechreuodd yn dda ac enillodd y set gyntaf, ond daeth Djokovic yn gryfach gan ennill y tri set nesaf. Y sgôr oedd 2-6 6-3 6-2 6-4.[16]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Cameron Norrie Biography". Lta.org.uk.
  2. "'Pretty Scottish' Cameron Norrie aiming to make hay in the United States". 29 August 2017.
  3. France, Anthony (24 June 2022). "Wimbledon 2022: Cameron Norrie's secret weapon? Having my parents courtside to cheer". Evening Standard.
  4. "Norrie Could Capture Maiden ATP and the Hearts of the Kiwi Nation". Scorum.com.
  5. "Tennis player Cameron Norrie is going pro after this semester". 27 April 2017.
  6. "Cameron Norrie: The best British tennis player you've never heard of". BBC News. February 2018.
  7. Stuart Fraser. "Cameron Norrie hopes the form of his life can rattle Rafael Nadal at the French Open". Thetimes.co.uk. Cyrchwyd 30 May 2022.
  8. "Races against friends and a head-start on the practice court — how Cameron Norrie got fighting fit for the US Open". Thetimes.co.uk.
  9. "Cameron Norrie Tennis Player Profile". Lta.org.uk.
  10. "The one who got away:Norrie's success haunts Tennis NZ". 3 September 2017.
  11. "The best British tennis player you've never heard of". BBC News. 1 February 2018.
  12. "Top Kiwi tennis junior Norrie defects to Britain". Stuff.co.nz. 5 May 2-6 6-3 6-2 6-4 2013. Check date values in: |date= (help)
  13. "National Tennis Centre NTC". Lta.org.uk.
  14. "Tennis player Cameron Norrie is going pro after this semester". tcu360.com. 27 April 2017.
  15. Wimbledon: mab i Gymraes yn gobeithio cyrraedd y ffeinal , Golwg360, 8 Gorffennaf 2022.
  16. Wimbledon: Cameron Norrie says reaching semi-finals is 'pretty sick' after Novak Djokovic loss , BBC Sport, 8 Gorffennaf 2022. Cyrchwyd ar 9 Gorffennaf 2022.