Camelot

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llun Gustave Doré o Camelot, 1868

Camelot yw castell neu lys y brenin Arthur yn y chwedlau Ffrengig a Seisnig amdano. Nid yw'n ymddangos yn y chwedlau Cymraeg cynnar, lle lleolir prif lys Arthur y Gelliwig yn Nghernyw, er enghraifft yn Culhwch ac Olwen. Yn yr Historia Regum Britanniae gan Sieffre o Fynwy, Caerllion ar Wysg oedd prif lys Arthur, a dilynwyd ef gan lawer o weithiau diweddarach.

Ceir y sôn cyntaf am Camelot yng ngwaith Chrétien de Troyes yn yr 1170au:

A un jor d'une Acenssion / Fu venuz de vers Carlion / Li rois Artus et tenu ot / Cort molt riche a Camaalot / Si riche com au jor estut. [1]
"Ar Ddydd Esgyniad, roedd y brenin Arthur wedi dod o Gaerllion, a chynhaliodd lys gwych yng Nghamelot, fel y gweddai i'r diwrnod".

Yn y 13eg ganrif, Camelot oedd prif lys Arthur mewn gweithiau Ffrangeg megis y Lawnslot-Greal, a dilynwyd hyn gan Thomas Malory yn ei Le Morte d'Arthur o ddiwedd y 15fed ganrif, er bod yn well gan olygydd Malory, William Caxton, leoliad yng Nghymru.

Credai Malory mai Caerwynt oedd Camelot. Yn 1542, adroddodd yr hynafiaethydd John Leland fod y bobl leol o amgylch Cadbury Castle yng Ngwlad yr Haf yn credu mai hwnnw oedd y Camelot gwreiddiol. Bu cloddio archaeolegol yno dan Leslie Alcock yn 1966-70, a chafwyd hyd i lawer o olion o tua'r 6ed ganrif.

Cyfeiriadau[golygu]