Cabinda (talaith)
Allglofan[1] a thalaith o Angola yw Cabinda. Ei phrifddinas yw Cabinda.
Cynnwys |
[golygu] Hanes
[golygu] Hanes cynnar
Roedd Cabinda cynnar yn cynnwys tair theyrnas: Loango a Kakongo a N'Goyo i ogledd Afon y Congo, a Ndongo i dde Afon y Congo.[2]
[golygu] Dan reolaeth Portiwgal
Ymwelodd y Portiwgaliaid â Cabinda yn gyntaf yn hwyr y bymthegfed ganrif. Daeth Cabinda yn Brotectoriaeth Bortiwgalaidd yn sgîl arwyddo Cytundeb Simulambuco ym 1885 wrth i Bortiwgal geisio gyfnerthu ei hymerodraeth yn ystod yr Ymgiprys am Affrica yn hwyr y ddeunawfed ganrif. Yng nghyfansoddiad yr Estado Novo ym 1933, diffinwyd Cabinda ac Angola fel rhannau ar wahân o Bortiwgal, ond ym 1956 ymunodd Bortiwgal weinyddiaeth Cabinda ac Angola.[2]
[golygu] Dan reolaeth Angola
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
[golygu] Daearyddiaeth
Lleolir Cabinda rhwng Gweriniaeth y Congo a Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo (DRC), gydag arwynebedd o dua 10,000 km².[2] Mae ganddo ffîn ogleddol o 201 km â Gweriniaeth y Congo,[1] ffîn ddwyreiniol a deheuol o 225 km â'r DRC,[1] a morlin gorllewinol o 150 km â Chefnfor yr Iwerydd.[3] Mae llain 60 km ei lled o diriogaeth y DRC yn gwahanu Cabinda o brif dir Angola.[2]
[golygu] Economi
Mae Cabinda yn cynhyrchu dros hanner o olew Angola, ac yn cyfri am bron ei holl enillion cyfnewid tramor. Mae Cabinda yn derbyn tua 10% o'r trethi a dalir gan ChevronTexaco a'i bartneriaid sydd yn gweithredu alltraeth y dalaith.[2]
[golygu] Demograffeg
Dim ond traean o'r 300,000 o bobl frodorol Cabinda ohonynt sydd yn byw o fewn tiriogaeth y dalaith ei hunan. Mae'r gweddill yn byw yn agos at y ffiniau yn nhiriogaethau Gweriniaeth y Congo a'r DRC.[2]
Iaith genedlaethol Cabinda yw Cabindês. Mae tua 90% o Gabindiaid yn siarad Ffrangeg, a 10% yn siarad Portiwgaleg. Mae'r mwyafrif o'r boblogaeth yn Gristnogion.[2]
[golygu] Cyfeiriadau
[golygu] Cysylltiadau allanol
- (Saesneg) In-depth: Cabinda