CAC 40
Oddi ar Wicipedia
Mynegai marchnad stoc safonol Ffrainc yw'r CAC 40 (Ffrangeg: CAC quarante, IPA: /kak.ka.ʁɑ̃t/). Mae'n cymryd ei enw o system awtomateiddio cynnar y Paris Bourse, sef Cotation Assistée en Continu. Mae'r mynegai yn cynrychioli mesur wedi'i bwyso yn ôl cyfaliaethiad o 40 uchaf o blith y 100 cap uchaf ar Bourse Paris (a enwir heddiw yn Euronext Paris). Gyda BEL20 Brwsel, PSI-20 Lisbon ac AEX Amsterdam, mae'n un o brif fynegai y grŵp marchnad stoc pan-Ewropeaidd Euronext ac un o fynegai stoc mwyaf allweddol y byd.
Fe'i sefydlwyd yn 1987 ac mae ganddo "cap marchnad" o € 1.023 triliwn (2007). Mae'r cwmnïau ar y CAC yn cynnwys Air France-KLM, y cwmni archfarchnadoedd Carrefour, Michelin, Renault a'r banc mawr Crédit Agricole.
Dolenni allanol [golygu]
- (Ffrangeg) Gwefan y CAC 40
- (Saesneg) Thomson Reuters: .FCHI
- (Saesneg) Bloomberg: CAC:IND