C.P.D. Merched Tref Caernarfon

Oddi ar Wicipedia
C.P.D. Merched Tref Caernarfon
Enghraifft o'r canlynolwomen's association football team Edit this on Wikidata
Gweler hefyd C.P.D. Tref Caernarfon

Mae C.P.D. Merched Tref Caernarfon yn glwb pêl-droed yng Nghaernarfon.

Mae yna dimau yn dechrau i blant o dan 8,o dan 10, o dan 12, o dan 14, o dan 16 ac yna'r Tîm cyntaf.

Gemau/Ymarferion[golygu | golygu cod]

Mae genethod y tîm cyntaf yn chwarae yn Yr Oval, Marcus Street sydd yn cael ei rannu gyda thîm dynion Caernarfon. Mae timau o dan 8,10,12,14 a 16 yn chwarae eu gemau gartref ar gae Ysgol Syr Hugh Owen. Mae o dan 8,14,16 yn ymarfer ar gae Ysgol Syr Hugh Owen ac o dan 12 yn ymarfer ar gae bob tywydd Ysgol Brynrefail yn Llanrug. Mae o dan 12,14 a 16 yn chwarae yn y ‘Nwgfl’ (North Wales Girls Football League) ac mae timau o dan 8 a 10 yn chwarae mewn twrnaments ar draws Gogledd Orllewin Cymru.

Rheolwyr[golygu | golygu cod]

Dewi Owen ydi rheolwr timau o dan 8 a 10, rheolwr tîm o dan 12 yw Elain Evans, rheolwr o dan 14 yw Tania Jones a rheolwr tîm o dan 16 ydi Owain Bryn a Huw Roberts. Rheolwr y tîm cyntaf yw Keith Fearns. Lliwiau’r clwb yw Melyn a Gwyrdd.