C.P.D. Merched Cyncoed
Enw llawn | Cyncoed Ladies Football Club (C.P.D. Merched Cyncoed) | ||
---|---|---|---|
Llysenwau | Mighty Oaks | ||
Maes | Maesydd Chwaraeon Prifysgol De Cymru, Trefforest | ||
Cynghrair | Uwch Gynghrair Merched Cymru | ||
2020–21 (eu tymor olaf) | 6ed [1] | ||
|
Roedd Clwb Pêl-droed Merched Cyncoed (Cyncoed Ladies F.C.) yn glwb pêl-droed yn ne Cymru. Er mai maestref o Gaerdydd yw Cyncoed, bu't tîm yn chwarae eu gemau cartref mewn sawl man yn y ddinas a thu hwnt, gan gynnwys Parc Chwaraeon Prifysgol De Cymru, Trefforest, Pontypridd. Buont yn chwarae yn Uwch Gynghrair Merched Cymru (y Adran Premier), y lefel uchaf o bêl-droed yng Nghymru.[2] Crys coch, siorts du a sanau coch oedd lliwiau eu cit.[3]
Hanes[golygu | golygu cod]
Ffurfiwyd y tîm yn 2007, gan chwarae'n wreiddiol o dan yr enw 'Cardiff Draconians' cyn dod yn Glwb Pêl-droed Merched Cyncoed yn 2008.[4] Daeth eu rhediad gorau erioed yng Nghwpan Merched yn nhymor 2017-18 pan gyrhaeddon nhw’r rownd gynderfynol cyn colli o drwch blewyn i Ddinas Caerdydd.[5] Ar y ffordd fe wnaethant drechu Llangyfelach 23-0 yn yr ail rownd.[6]
Uno gyda C.P.D. Tref Pontypridd[golygu | golygu cod]
Ar gyfer tymor 2021-22 ac yn sgil newidiadau i strwythur cystadlaethau pêl-droed merched Cymru gan y Gymdeithas Bêl-droed, cafwyd cais gan glwb merched Cyncoed i uno gyda C.P.D. Merched Tref Pontypridd sy'n rhan bellach o C.P.D. Tref Pontypridd. Roedd hyn yn rannol gan bod Cyncoed eisoes yn chwarae ar safle Prifysgol De Cymru ym Mhontypridd ac er mwyn gwireddu ysfa i dyfu a chryfhau'r ddarpariaeth bêl-droed i ferched o fewn Pontypridd a'r ardal gan glwb sylfaenol Pontypridd.[7] Erbyn 2021-22 felly unwyd C.P.D. Merched Pontypridd, C.P.D. Tref Pontypridd (dynion) a'r hen C.P.D. Merched Cyncoed i greu un uned. Yn ôl Fern Burrage-Male, Cyfarwyddwr Pêl-droed Merched Cyncoed, “Am nifer o flynyddoedd mae Cyncoed Ladies wedi bod yn dîm Merched hŷn hunangynhaliol llwyddiannus. Rydym wedi bod ag awydd i dyfu ac wedi gwneud cynnydd gyda'n rhaglen dan 19 a chwaer glwb. Pan adolygwyd ein camau nesaf, gwnaethom gydnabod ein bod yn chwarae ym Mhontypridd allan o USW ac nad oes gennym gysylltiadau uniongyrchol ag ardal Cyncoed o gwbl.
“Roeddem hefyd yn gwybod o safbwynt brandio/marchnata, gallai fod rhai cysylltiadau â Champws Cyncoed a Chaerdydd Met sy'n chwarae eu gemau cartref yno. Fe wnaethon ni archwilio ein cyfleoedd a'r dirwedd yn ne Cymru a Clwb Pêl-droed Tref Pontypridd oedd y dewis perffaith. Yn hynny o beth, rydym wedi gwneud cais i uno Cyncoed Ladies; Merched Pontypridd (yn SWWGL ar hyn o bryd) ac AFC Tref Pontypridd.”[8]
Gorffennodd Cyncoed eu tymor olaf fel tîm ar wahan yn 2020-21 yn 6ed safle Uwch Gynghrair Orchard Cymru.[9]
Derbyniwyd y C.P.D. Tref Pontypridd ar ei newydd wedd i chwarae yn y Genero Adran Preimere newydd yn 2021-22.[10]
Maes Cartref[golygu | golygu cod]
Bu C.P.D. Merched Cyncoed yn chwarae ar faes Prifysgol De Cymru, Trefforest.
Cofnod gorau[golygu | golygu cod]
Chwaraeodd Cyncoed eu tymor cyntaf yn yr Uwch Gynghrair Merched Cymru yn 2015-16, gan orffen yn yr 8fed safle a chyrraedd rownd yr wyth olaf yng Nghwpan Merched Cymru.[11]
Tymor 2017-18 oedd un mwyaf llwyddiannus Cyncoed, gan orffen yn 4ydd yn yr Uwch Gynghrair ac ennill Cwpan Uwch Gynghrair Cymru gan drechu enillwyr y gynghrair, Met Caerdydd, o 1-0 mewn amser ychwanegol.[12]
Anrhydeddau[golygu | golygu cod]
- Cwpan Uwch Gynghrair Cymru
- Pencampwyr: 2017-18 [12]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ "Summary - Welsh Premier Women's League - Wales - Results, fixtures, tables and news - Women Soccerway". int.women.soccerway.com. Cyrchwyd 23 Medi 2022.
- ↑ "League table on the league website". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-09-13. Cyrchwyd 2021-08-16.
- ↑ "Club information on the league website". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-04-13. Cyrchwyd 2021-08-16.
- ↑ Club history on the club website
- ↑ Match report on the Welsh FA website
- ↑ shekicks.net round up of the tournament to the semi-finals
- ↑ https://www.cymrufootball.wales/news/cyncoed-ladies-confirm-merger-pontypridd-town/
- ↑ https://www.cymrufootball.wales/news/cyncoed-ladies-confirm-merger-pontypridd-town/
- ↑ https://www.cymrufootball.wales/news/cyncoed-ladies-confirm-merger-pontypridd-town/
- ↑ https://www.adranleagues.cymru/
- ↑ "Information - Cyncoed Ladies FC". www.pitchero.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 23 July 2019.
- ↑ 12.0 12.1 Frith, Wilf (26 March 2018). "Cyncoed win Welsh Premier League Cup". She Kicks Women's Football Magazine. Cyrchwyd 23 July 2019.