Côr Godre'r Garth
Côr cymysg yn ardal Gwaelod-y-Garth yw Côr Gwaelod y Garth. Mae'n denu cantorion o ardal Caerdydd a Phontypridd.
Hanes[golygu | golygu cod]
Ffurfiwyd Côr Godre’r Garth yn 1974 gyda'r nod o hybu’r Gymraeg mewn ardal a oedd, yr adeg honno, yn ôl ei gwefan "wrthi’n brysur yn ailddarganfod ei Chymreictod". Roedd llawer o Gymry Cymraeg wedi symud i ardal Pontypridd o bob cwr o Gymru a daeth y rhai cerddorol yn eu plith ynghyd o dan arweiniad deheuig Wil Morus Jones. Athrawon oedd nifer o’r newydd-ddyfodiaid hynny, a bellach mae nifer o aelodau iau’r côr yn gynnyrch ysgolion Cymraeg yr ardal.[1]
Arweinydd cyntaf y Côr oedd Wil Morus Jones. Wedi 28 o wasanaeth, ymddeolodd o'i rôl. Daeth Eilir Owen Griffiths yn arweinydd yn 2003.
Ennill yn yr Eisteddfod Genedlethol[golygu | golygu cod]
Mae'r Côr yn cystadlu mewn eisteddfodau gan gynnwys ennill ar ei chynnig gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerfyrddin 1974.
Ennill categori i gorau dros 45 mewn nifer:
- 2004 - Casnewydd
- 2005 - Y Faenol
- 2006 - Abertawe
- 2007 - Sir y Fflint
- 2009 - Y Bala
Stadiwm y Mileniwm[golygu | golygu cod]
Mae’r côr wedi ymddangos 4 gwaith yn arwain y canu yn Stadiwm y Mileniwm, gan gynnwys canu gyda Hayley Westenra a Katherine Jenkins cyn gêm Cymru a Seland Newydd yn 2006.
Teithiau Tramor[golygu | golygu cod]
Mae'r Côr wedi teithio a pherfformio dramor gan ymwelad â Fflorens, Iwerddon, Barcelona, Llydaw a Prâg ac amryw o lefydd eraill dramor a ledled Cymru. Mae cysylltiad gyda chôr Liedertafel Moosburg, Bafaria’n ymestyn nôl dros 25 o flynyddoedd pan fu aelodau’r ddau gôr yn aros gyda’i gilydd am y tro cyntaf ac yn cynnal cyngherddau.
Amser Pasg 2006 oedd yr ymweliad diweddaraf, pan aeth Godre’r Garth ar daith lwyddiannus i Moosburg, gyda’n harweinydd presennol, Eilir Owen Griffiths. Daeth y criw o Moosburg nôl i aros yng Nghymru amser Pasg 2008 pan ganwyd Offeren Schubert yn G ar y cyd. Ceri Williams bu cyfeilydd cyntaf y Côr.
Trefniadaeth[golygu | golygu cod]
- Arweinydd: Stefan Watkins
- Cyfeilydd: Branwen Evans (bu'n cyfeilio i Gôr ABC cyn hynny.
- Ymarferion: Pob nos Sul am 7:30 p.m., Neuadd y Pentref, Efail Isaf
Recordiadau[golygu | golygu cod]
- Côr Godre'r Garth, Albwm (1976)
- Ym Mhontyridd mae'n Nghariad, Albwm (1983)
- Dwfn Liwiau, CD [2]
Dolenni[golygu | golygu cod]
- Gwefan Côr Godre'r Garth
- Fideos o Gôr Godre'r Garth yn Perfformio Archifwyd 2018-12-12 yn y Peiriant Wayback.
- Côr Godre'r Garth ar Twitter
- Côr Godre'r Garth ar Facebook