Côr ABC

Oddi ar Wicipedia
Côr ABC, Eglwys Llanbadarn Fawr, Aberystwyth

Côr cymysg Cymraeg wedi ei leoli yn Aberystwyth yw Côr ABC.

Hanes[golygu | golygu cod]

Côr ABC

Sefydlwyd y Côr yn 1995 fel côr ieuenctid. Roedd y cyfarfod cyntaf ar 16 Chwefror 1995 yn Ysgol Gynradd Llwyn-yr-Eos, Penparcau gyda'r enw llawn, "Côr Aelwyd Bro Ceredigion".[1] Ers hynny mae wedi datblygu i fod yn gôr cymysg cymunedol uchelgeisiol sy’n cefnogi bywyd cerddorol Aberystwyth a’r fro.

Mae’r côr wedi comisiynu a pherfformio darnau newydd, gan gynnwys ‘Aberystwyth’[2] gan Hector MacDonald a ‘Gosber’[3] a ‘Gosod fi megis sêl’ gan Andrew Cusworth. Gallwch glywed recordiad o berfformiad cyntaf ‘Gosber’ ar waelod y dudalen, a gallwch hefyd glywed y côr yn canu ar ffilm lwyddiannus Gideon Koppel, ‘Sleep Furiously’.

Mae’r côr wedi recordio cryno ddisg o emynau’r Pasg ar gyfer cyfres o ddetholiadau a gyhoeddir gan Curiad. Bydd yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yn 2018.

Trefniant y Côr[golygu | golygu cod]

Mae'r Côr yn cwrdd i ymarfer ar nos Iau yng Capel y Morfa, Aberystwyth, Stryd Portland, Aberystwyth.

Arweinydd y Côr[golygu | golygu cod]

Arweinydd y Côr yn 2018 yw Gwennan Williams yn gerddor sy’n frwd dros gerddoriaeth gorawl a cherddoriaeth gymunedol. Mae ganddi radd anrhydedd gyfun mewn cerddoriaeth ac Almaeneg o Brifysgol Birmingham. Mae’n arwain Côr ABC ers 2013. Enillodd dlws Arweinydd yr Ŵyl yng Ngŵyl Fawr Aberteifi yn 2018.

Arweinydd gyntaf y Côr oedd Jamie Medhurst ac yna Angharad Fychan.

Y cyfeilydd[golygu | golygu cod]

Cyfeilydd y Côr yw Louise Amery sy'n gerddor amryddawn a chanddi radd anrhydedd mewn cerddoriaeth o Brifysgol Bangor. Mae’n cyfeilio i Gôr ABC ers 2000. Cyfeilydd cyntaf y Côr oedd Branwen Evans, a aeth yna ymlaen i gyfeilio i Gôr Godre'r Garth.

Gwobrau[golygu | golygu cod]

  • Cystadleuaeth Côr Cymru S4C - cyrraedd rownd derfynol y corau cymysg yn 2007, 2011 a 2017
  • Ennill cystadleuaeth y corau cymysg Gŵyl Fawr Aberteifi yn 2010, 2011 a 2018, gan gipio tlws Côr yr Ŵyl yn 2018.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]