Bryn-poeth Uchaf

Oddi ar Wicipedia
Bryn-poeth Uchaf
Mathcarnedd gylchog Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.083984°N 3.754151°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN7990044300 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwCM344 Edit this on Wikidata

Ceir dwy garnedd gylchog o Oes yr Efydd ar safle Bryn-poeth Uchaf, yng nghymuned Llanfair-ar-y-bryn, Sir Gaerfyrddin; cyfeiriad grid SN 799 443.

Math o garnedd gynhanesyddol a godwyd gan y Celtiaid ydy “carnedd gylchog”. (Saesneg: ring cairn); fe'i codwyd i nodi mangre arbennig, ar gyfer defodau neu i goffau'r meirw, a hynny yn Oes yr Efydd, mae'n debyg.

Ni ddylid cymysgu'r math hwn gyda chylch cerrig, sy'n perthyn i oes wahanol. Caiff ei nodi ar fapiau'r Ordanance gyda'r gair 'Cairn'. Sylwer, hefyd, mai “carnedd gylchog” ydy'r term sy'n cael ei ddefnyddio yng ngeiriadur yr Academi, yn hytrach na "charnedd gylch".

Cofrestrwyd yr heneb gan Cadw gyda'r rhif SAM: CM344 .[1]

Yr ail garnedd[golygu | golygu cod]

Ceir carnedd gylchog arall gerllaw; cyfeiriad grid SN800438. Cofrestrwyd yr heneb gan Cadw gyda'r rhif SAM: CM345.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]