Bou Salem
Oddi ar Wicipedia
Dinas yng ngogledd-orllewin Tunisia yw Bou Salem. Mae'n gorwedd yn nyffryn afon Medjerda, ar lan ogleddol yr afon honno, yn nhalaith Jendouba, tua hanner ffordd rhwng dinasoedd Jendouba (i'r gorllewin) a Béja (i'r dwyrain). Mae ganddi boblogaeth o 20,098 (2004).
I't gogledd o'r dref mae'r tir yn codi'n araf i fynyddoedd coediog y Kroumirie. Mae Bou Salem yn ganolfan amaethyddol a cheir nifer o ffermydd yn y wlad o'i chwmpas. Mae ganddi orsaf ar reilffordd Tunis-Ghardimaou a rhed y briffordd GP5 trwy'r dref. Ar ei chyrion ceir pont ar afon Bou Hertma, sy'n disgyn o'r Kroumirie i'w chymer ar afon Medjerda gerllaw.
Enwir y dref ar ôl sant lleol, Sidi Bou Salem.
Dolen allanol [golygu]
- Gwefan swyddogol Bou Salem (Ffrangeg) (Arabeg) (Saesneg)