Blodau Cerdd

Oddi ar Wicipedia
Blodau Cerdd
Enghraifft o'r canlynolcyfnodolyn, cylchgrawn Edit this on Wikidata
GolygyddJohn Roberts (Ieuan Gwyllt) Edit this on Wikidata
CyhoeddwrDavid Jenkins Edit this on Wikidata
GwladCymru Edit this on Wikidata
Rhan oCylchgronau Cymru Ar-lein Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1852 Edit this on Wikidata
Lleoliad cyhoeddiAberystwyth Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Y 3ydd mewn cyfres o saith (1852)

Cylchgrawn cerddorol ar gyfer pobl ifanc yr Ysgolion Sul[1] oedd Blodau Cerdd (1852-1853), a byddai'n cynnwys gwersi cerddorol a thonau. Er iddo gael derbyniad fel y cylchgrawn cerddorol cyntaf yn y Gymraeg, yn dechnegol llyfr wedi ei gyhoeddi mewn saith rhan ydoedd. Golygwyd y cylchgrawn gan y cerddor John Roberts (Ieuan Gwyllt) (1822-1877). Rhagflaenwyd ef gan Y Cerddor Eglwysig[2] (1846 & 1847) a gyhoeddwyd gan John a Richard Mills, Llanidloes, ac fe'i dilynwyd gan Ceinion Cerddoriaeth, 2 Gyf [3] (1852-1856) o waith Thomas Williams, Llanidloes.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Canmlwyddiant Ysgol Sabbothol Cymru (Llundain) Thomas Levi (1885)
  2. Y Cerddor Eglwysig. [280 t.] (1846), [140 t.] (1847).
  3. Ceinion Cerddoriaeth Gorawl ac Eglwysig (1854,1855).