John Roberts (Ieuan Gwyllt)
Oddi ar Wicipedia
Ieuan Gwyllt (Delwedd o Gasgliad John Thomas, Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
Ieuan Gwyllt oedd enw barddol y cerddor, John Roberts (22 Rhagfyr 1822 - 14/16 Mai 1877). Daw ei enw barddol o'r un a ddefnyddiai wrth ysgrifennu barddoniaeth pan oedd yn ifanc, sef 'Ieuan Gwyllt Gelltydd Melindwr'. Ganed John Roberts ar 22 Rhagfyr 1822 ym mhentref bychan Tanrhiwfelen, ger Aberystwyth. Bu farw ar 14/6 Mai 1877, a chafodd ei gladdu ym mynwent Caeathro, ger Caernarfon[1].