Blanche-Nef
Suddodd y Blanche-Nef (Y Llong Wen), llong hwyliau o'r 12fed ganrif, ym Môr Udd ger arfordir Normandi, yn ymyl Barfleur, ar 25 Tachwedd 1120. Boddwyd sawl person blaenllaw yn y byd Eingl-Normanaidd a lledodd yr hanes am y trychineb trwy Gymru, Ffrainc a Lloegr.
Ymhlith y rhai a foddwyd ar ei bwrdd oedd William Adelin, unig fab cyfreithlon y brenin Harri I o Loegr, a Richard d'Avranches, 2il Iarll Caer, mab Huw Flaidd. Croniclwyd yr hanes gan William o Malmesbury. Boddwyd Geoffrey, archddiacon Henffordd, Cowntes Caer, Lucia-Mahaut o Blois (nith Harri I) ac eraill hefyd. Dim ond un o'r rhai ar fwrdd y Llong Wen a oroesodd.
Tarodd y llong ar graig yn y môr wrth dynnu am Barfleur. Roedd yn hwylio dros nos ar noson loergan.
Ysbrydolwyd sawl darn o lenyddiaeth gan hanes y Llong Wen, yn cynnwys cerdd gan Dante Gabriel Rossetti.
[golygu] Darllen pellach
- Victoria Chandler, 'The Wreck of the White Ship', yn The final argument : the imprint of violence on society in medieval and early modern Europe, gol. Donald J. Kagay a L. J. Andrew Villalon (1998).
[golygu] Dolenni allanol
- The White Ship (Y Llong Wen) gan Rossetti