Biskaia

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad talaith Biskaia

Un o'r tair talaith sy'n ffurfio Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg yw Biskaia (Basgeg: Bizkaia, Sbaeneg: Vizcaya). Saif ar yr arfordir, gyda thalaith Gipuzkoa i'r dwyrain.

Mae tua 35% o'r boblogaeth o 1,133,444 yn byw yn y brifddinas, Bilbo (Bilbao), a tua 88% yn ardal ddinesig Gran Bilbao. Ystyrir tref Gernika fel canolfan ysbrydol Gwlad y Basg. Trefi pwysig eraill yw Barakaldo, Getxo, Portugalete, Santurtzi, Durango, Basauri, Galdakao a Balmaseda.