Bisged

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cynyrch bychain wedi eu pobi yw bisgedi; mae union ystyr y gair yn amrywio ar draws y byd. Daw'r gair yn wreiddiol o'r Lladin, trwy Ffrangeg canol ac mae'n golygu "wedi ei goginio ddwywaith". Roedd hard tack y forlu Brydeinig yn un o'r bisgedi cynharaf, a pasiwyd hyn ymlaen trwy ddiwylliant Americanaidd, cynhyrchwyd bisgedi hard tack drwy'r 19eg ganrif.

[golygu] Bisgedi Prydeinig

Bisgedi digestif Prydeinig

Cynyrch fflat a chaled wedi ei bobi yw bisged, a gall fod yn felys neu'n sawrus. Gall rhain cael eu galw'n "cwci" neu "cracyr" yng Ngogledd America. Mae'r term bisged hefyd yn cyfeirio at bisgedi fel brechdan, sydd â haenen o eisin neu hufen rhwng dau fisged. Ym Mhrydain, defnyddir y gair cwci i gyfeiro at math arbennig o fisged yn unig, sef un meddalach megis "cwci sglodion siocled".

Diffinwyd y term bisged yn y ffurf Brydeinig pan ganfwyd gan feirniadaeth treth o blaid McVitie's a'u cynnyrch Jaffa Cake, a honnai'r Her Majesty's Customs and Excise i fod yn fisged ac fellu yn atebol i dalu treth ar werth - gan fod bisgedi wedi eu gorchuddio â siocled yn atebol i TAW, ond nid teisennau wedi eu gorchuddio â siocled. Defnyddwyd yr amddiffyniad fod "bisgedi'n troi'n feddal pan yn hen, tra bod teisennau'n troi'n galed", yn llwyddianus.

[golygu] Gweler hefyd

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill