Bisged Garibaldi

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Bisgedi Garibaldi.

Mae Bisged Garibaldi yn cynnwys cyrens wedi eu gwasgu rhwng dwy fisged tenau hirsgwar, yn debyg i brechdan cyrens, oherwydd hynny mae'n debyg i'r Teisen Eccles sy'n llawer mwy a gyda chrwst haenog. Mae'n boblogaidd ym Mhrydain ers rhyw 150 o flynyddoedd Garibaldi. Bwytir bisgedi Garibaldi fel rheol gyda diod megis te neu goffi.

Hanes[golygu]

Enwyd y fisged Garibaldi ar ôl Giuseppe Garibaldi, arweinydd milwrol a gwleidyddol Eidalaidd, a ymwelodd â Tynemouth, Lloegr yn 1854. Cynhyrchwyd y fisged am y tro cyntaf yn ffatri bisgedi Peek Freans yn Bermondsey yn 1861 yn dilyn recriwtiaid John Carr, un o wneuthurwyr bisgedi mawrion yr Alban. Cynhyrchwyd fisged tebyg yn yr Unol Daleithiau gan y Sunshine Biscuit Company am nifer o flynyddoedd, odan yr enw "Golden Fruit". Prynwyd y cwmni hon gan Keebler Company a gynhyrchodd fersiwn gyda amryw o ffrwythau gwahanol cyn dod a'r cynhyrchiad i ben yn gyfan gwbl.

Dolenni allanol[golygu]