Bill Maynard

Oddi ar Wicipedia
Bill Maynard
GanwydWalter Frederick George Williams Edit this on Wikidata
8 Hydref 1928 Edit this on Wikidata
Farnham Edit this on Wikidata
Bu farw30 Mawrth 2018 Edit this on Wikidata
o marwolaeth drwy gwymp Edit this on Wikidata
Swydd Gaerlŷr Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, actor teledu, digrifwr stand-yp, pêl-droediwr, actor llwyfan Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PriodTonia Bern Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auKettering Town F.C. Edit this on Wikidata

Roedd Walter Frederick George Williams (8 Hydref 192830 Mawrth 2018),[1] a oedd yn cael ei adnabod dan ei enw llwyfan Bill Maynard, yn gomedïwr ac yn actor o Loegr.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Ganwyd Maynard yn 5 Oak Cottages, Heath End, Farnham, Surrey, a mynychodd Ysgol Ramadeg Kibworth Beauchamp yn Swydd Gaerlŷr.

Priododd Muriel Linnett ar 5 Tachwedd 1949, bu iddynt dau fab gan gynnwys y cerddor Martin Maynard Williams.  Bu farw Muriel ym mis Mehefin 1983. Ar 4 Medi 1989 priododd Tonia Bern gweddw yr ymgeisydd am recordiau cyflymder Donald Cambell.

Gyrfa fel perfformiwr[golygu | golygu cod]

Dechreuodd fel perfformiwr amrywiol, gan gymryd ei gyfenw proffesiynol o fwrdd hysbysebu Maynard's Wine Gums[2], melysion poblogaidd ar y pryd. Bu ei ymddangosiad cyntaf ar y teledu ar Henry Hall’s Face the Music ar 12 Medi 1953[3].

Roedd yn rhan o'r tîm a gyflwynodd the One O'Clock Show ar gyfer Teledu Tyne Tees yn Newcastle (1959-64). Ymddangosodd yn nrama teledu Dennis Potter, Paper Roses (1971), am y diwrnod olaf ym mywyd gohebydd. Ymddangosodd yn nrama teledu Colin Welland, Kisses at Fifty (1973). Tua'r un pryd, bu Maynard yn gweithio gyda'r actor teledu a'r comedïwr Ronnie Barker yn "Football Blues" cafodd ei ddarlledu ar y teledu fel "Spanners Eleven".

Ar ôl chware ran yn y bennod beilot yn 1974, bu'n serennu yn sitcom Teledu Yorkshire, Oh No, it's Selwyn Froggitt! (1976-78) gan chwarae rôl Selwyn y teitl. Darlledwyd y rhaglen am bedair cyfres. Bu hefyd yn gweithio i gwmni Yorkshire gan chware ran Fred Moffatt yn The Gaffer (1981-83).

Yn y 1970au chwaraeodd Maynard rhannau bach ym mhump o ffilmiau'r gyfres Carry On, gan gynnwys Carry On Matron (1972) a Carry On Dick (1974). Roedd ganddo rôl ffilm fel Mr Hinchcliffe ffermwr yn Swydd Efrog yn It Shouldn't Happen to a Vet (1975).

Ym mis Ebrill 1992, dychwelodd i gwmni Yorkshire i chwarae rhan Claude Jeremiah Greengrass yn y gyfres deledu boblogaidd Heartbeat gan aros yn y sioe hyd ddiwedd y gyfres ym mis Rhagfyr 2000, a'i gyfres olynol The Royal hyd 2003.

Teledu a ffilm[4][golygu | golygu cod]

  • Till Death Us Do Part (1968) – Bert
  • It All Goes to Show (1969) – Mike Sago
  • One More Time (1970) – Jenson
  • Carry On Loving (1970) – Mr. Dreery
  • A Hole Lot of Trouble (1971) – Bill
  • Carry On Henry (1971) – Guy Fawkes
  • Carry On at Your Convenience (1971) – Fred Moore
  • Carry On Matron (1972) – Freddy
  • Four Dimensions of Greta (1972) – Big Danny
  • Bless This House (1972) – Oldham
  • Adolf Hitler: My Part in His Downfall (1973) – Sgt. Ellis
  • Never Mind the Quality Feel the Width (1973) – Larkin
  • Kisses at Fifty, a Play for Today (Teledu, 1973) – Harry
  • Seven of One (Teledu, 1973) – Councillor Todd
  • Steptoe and Son Ride Again (1973) – George
  • Oh No, It's Selwyn Froggitt! (Teledu, 1974–1978) – Selwyn Froggitt
  • Carry On Dick (1974) – Bodkin
  • Confessions of a Window Cleaner (1974) – Mr. Lea
  • Man About the House (1974) – Chef
  • The Life of Riley (Teledu, 1975) – Frank Riley
  • Confessions of a Pop Performer (1975) – Mr. Lea
  • The Sweeney "Supersnout" (Teledu, 1975) – Det. Chief Insp. Stephen Quirk
  • Robin and Marian (1976) – Mercadier
  • Confessions of a Driving Instructor (1976) – Mr. Lea
  • It Shouldn't Happen to a Vet (1976) – Hinchcliffe
  • Confessions from a Holiday Camp (1977) – Mr. Lea
  • Paradise Island (Teledu, 1977) - Rev. Alexander Goodwin
  • Sky Pirates (1977) – Charlie
  • The Gaffer (Teledu, 1981–1983) – Fred Moffatt
  • The Plague Dogs (1982) – Editor (voice)
  • Minder "The Second Time Around" (Teledu, 1984) - Barney Todd
  • In Sickness and in Health (Teledu, 1985–1992) – Bert Luscombe
  • Oddball Hall (1990) – Copperthewaite
  • Screen One: Filipina Dreamgirls (Teledu, 1991) – George Trout
  • Heartbeat (Teledu, 1992–2000) (155 pennod) – Claude Jeremiah Greengrass
  • Dalziel and Pascoe "Dialogues of the Dead" (2002) – Councillor Cyril Steel
  • The Royal (Teledu, 2003) (saith pennod) – Claude Greengrass
  • Broken Nation (2015)
  • The Moorside (2016) – Cecil

Gwybodaeth amgen[golygu | golygu cod]

Roedd Maynard yn gefnogwr brwd o Gategori Fformiwla 1 rasio ceir Stoc BriSCA, ac fe'i gwelwyd yn rheolaidd yn gwylio'r rasys yn Long Eaton, Stadiwm Caerlŷr a Stadiwm Coventry. Noddodd y gyrrwr Pete Doran (428) o Hinckley am flynyddoedd lawer. Recordiodd can doniol o'r enw o'r enw "Stock Car Racing is Magic!" cafodd ei ryddhau ym 1979[5]. Mae'r can yn  dal i gael ei chwarae mewn cyfarfodydd car stoc.

Roedd yn destun This Is Your Life ym 1974 pan gafodd ei gyflwyno efo'r llyfr coch gan Eamonn Andrews.

Ysgrifenned dau hunangofiant The Yo-Yo Man ym 1975[6] a Stand Up...And Be Counted[7] ym 1997.

Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod]

Safodd Maynard yn erbyn Tony Benn mewn isetholiad yn etholaeth Chesterfield ym 1984 fel ymgeisydd Llafur Annibynnol. Ei bwriad oedd dwyn rhywfaint o'r bleidlais Lafur er mwyn rhwystro ethol Benn. Bu'r ymgais yn aflwyddiannus a llwyddodd Benn i gadw'r sedd i Lafur, daeth Maynard yn bedwaredd[8]. Pe bai bwriad Maynard wedi llwyddo byddai'r ymgeisydd Ceidwadol wedi ennill. Yr ymgeisydd Ceidwadol oedd yr Athro Nick Bourne, a aeth ymlaen i fod yn arweinydd y grŵp Ceidwadol yng Nghynulliad Cymru o 1999 i 2011

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Yn ei flynyddoedd olaf bu  Maynard yn byw efo anawsterau symud o ganlyniad i gael ei daro gan strociau lluosog.  Bu farw yn yr ysbyty ar 30 Mawrth 2018, ychydig ar ôl cwympo oddi ar sgwter symudedd a thorri ei glun[9].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "BBC News - Heartbeat actor Bill Maynard dies at 89". BBC. 30/03/2018. Cyrchwyd 30/03/2018. Check date values in: |access-date=, |date= (help)
  2. The Guardian 30/03/2013 Actor Bill Maynard, Greengrass in Heartbeat, dies aged 89 adalwyd 30/03/2018
  3. The Telegraph 30/03/2018 Heartbeat actor Bill Maynard dies aged 89 adalwyd 30/03/2018
  4. Bill Maynard ar IMDb adalwyd 30/03/2018
  5. 45Cat Vroom Stock Car Racing Is Magic adalwyd 30/03/2018
  6. Maynard, Bill (1975). The Yo-Yo Man: The Autobiography of Bill Maynard. London: Golden Eagle Press. ISBN 0901482218
  7. Maynard, Bill; Sheard, John (1997). Stand Up and Be Counted. Derby: Breedon Books. ISBN 9781859830802
  8. Canlyniadau isetholiadau 1983-1997 Archifwyd 2018-04-05 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 30/03/2018
  9. Sky News Heartbeat actor Bill Maynard dies after fall adalwyd 30/03/2018