Bessie Rhisiart
Bessie Rhisiart | |
---|---|
Man preswyl | Dinas Mawddwy |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwrach |
Gwrach neu 'wraig hysbys' chwedlonol oedd Bessie Risiart ac roedd yn byw ochrau Dinas Mawddwy, Powys.
Roedd Bessie Risiart yn wrach yn ardal Mawddwy. Aeth hi un diwrnod i Esgair Adda i ofyn i drigolion y fferm am gymorth. Dywedodd wrth y dyn a oedd yn byw yno y byddai’n difaru gwrthod cynnig cymorth iddi.
Dywedodd yntau “Amser a ddengys.” Ymhen dim, dechreuodd ei ddefaid lithro i lawr llethrau’r cwm, felly dechreuodd wneud yr hyn yr oedd y wrach wedi gofyn iddo ei wneud.