Belfort

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Canol Belfort

Tref a chymuned yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc sy'n préfecture (prifddinas) département Territoire de Belfort, yn rhanbarth Franche-Comté yw Belfort (Almaeneg: Beffert). Mae ganddi boblogaeth o 50,417 (1999), neu tua 80,000 yn cynwys y maesdrefi.

Fe'i lleolir ar afon Savoureuse ar y Trouée de Belfort (Bwlch Belfort), math o fwlch strategol rhwng mynyddoedd y Vosges a'r Jura ar y llwybr naturiol rhwng afonydd Rhein (i'r dwyrain) a Rhône (i'r gorllewin), a adnabyddir hefyd fel y Porte de Bourgogne (Drws Bwrgwyn).

Oherwydd ei lleoliad strategol mae Belfort wedi atynnu ymsefydlwyr ac ymosodwyr ers cyfnod y Rhufeiniaid. Ystyr yr enw yw "caer hardd", a thyfodd y dref o gwmpas yr amddiffynfa. Ceir eglwys gadeiriol hardd yno hefyd.

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: