Beàrnaraigh Beag

Oddi ar Wicipedia
Beàrnaraigh Beag
Mathynys Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolYnysoedd Allanol Heledd Edit this on Wikidata
SirYnysoedd Allanol Heledd Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
GerllawCefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau58.2653°N 6.8733°W Edit this on Wikidata
Map

Mae Beàrnaraigh Beag (Saesneg:Little Bernera) yn ynys ger Leòdhas, un o’r Ynysoedd Allanol Heledd. Mae’n gorwedd rhwng Gogledd Loch Roag a Dwyrain Loch Roag, i’r gogledd o Bearnaraigh Mòr. Maint yr ynys yw 138 hectar, gyda uchder o 42 medr.

Roedd pobl ar yr ynys hyd at yr 1840au, a roedd y tai ar lan ddeheuol yr ynys. Agorwyd ysgol ar yr ynys ym 1831 gyda 40 o ddysgyblion. Cliriwyd mwyafrif y trigolion ym 1832 a 1833, a chaewyd yr ysgol.[1] Defnyddir fynwent yr ynys hyd at ddechrau’r 20g. Mae tir yr ynys yn frwythlon, ac mae hawliau pori’n perchen i bentrefi Breaclete a Hacklete.[2]

Beàrnaraigh Beag (ar y chwith)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]


Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Alban. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato