Baruglys plethog

Oddi ar Wicipedia
Baruglys plethog
Gymnomitrion concinnatum
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Jungermanniales
Teulu: Gymnomitriaceae
Genws: Gymnomitrion
Rhywogaeth: G. concinnatum
Enw deuenwol
Gymnomitrion concinnatum

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Baruglys plethog (enw gwyddonol: Gymnomitrion concinnatum; enw Saesneg: braided frostwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru.

Mae'n fach iawn ac yn ffurfio matiau trwchus neu weithiau glustogau o'r planhigyn yn plethu drwy'i gilydd. Mae'n wyrddfrown neu'n felynfrown ac yn aml ceir gwawr cochaidd neu arian i'r lliw, gan fod ymyl y dail yn ddi-liw.

Coesynnau bychan sydd gan y Baruglys plethog: hyd at 0.5 mm o led ac 15mm o hyd. Mae'r dail yn llai na 1mm o hyd.

Llysiau'r afu[golygu | golygu cod]

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

Safonwyd yr enw Baruglys plethog gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.