Bangor (Mor-Bihan)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Goleudy'r Grand Phare, ger Bangor
Erthygl yw hon am y pentref yn Llydaw: gweler hefyd Bangor a Bangor (gwahaniaethu).

Pentref (commune) yn Llydaw yw Bangor, yn département Mor-Bihan. Mae'n un o bedwar commune ar ynys Ar Gerveur (Ffrangeg: Belle-Île-en-Mer).

Wedi ei leoli ym Mangor, y Grand Phare yw un o'r goleudai gorau ar arfordir Llydaw. Fe'i adeiladwyd ym 1935. Yn sefyll ar ei sylfaen gwenithfaen, mae'n codi 47 m o'r tir gan ei wneud yn tua 84 m uwchben lefel y môr. Gellir gweld ei olau hyd at 28 milltir allan ar y môr.

Yn ôl cyfrifiad 1999, mae gan y pentref boblogaeth o 738. Gelwir trigolion Bangor yn Fangoriaid (neu Bangorins yn Ffrangeg).

Dolenni allanol[golygu]