Baner Tunisia
Oddi ar Wicipedia
Baner o liw goch gyda cilgant a seren goch ar gefndir o gylch gwyn yn ei chanol yw cynllun baner Tunisia (Arabeg: علم تونس).
Nid yw wedi newid llawer ers iddi gael ei mabwysiadu am y tro cyntaf yn 1831 gan y bey Tunisiaidd Hassine I. Mae'r cilgant a'r seren yn symbolau Islamaidd tradodiadol sy'n adlewyrchu'r ffaith fod Tunisia yn wlad Foslemaidd ers y 7fed ganrif; maent yn arwyddo ffawd dda hefyd. Cyflwynwyd y faner yn y cyfnod o reolaeth gan Ymerodraeth yr Otomaniaid ar y wlad, ac mae ei chynllun yn bur debyg i gynllun baner Twrci. Ar ôl i Tunisia ennill ei hannibyniaeth oddi ar Ffrainc yn 1956, mabwysiadwyd y faner Otomanaidd o newydd gyda dim ond y mymryn lleiaf o newidiadau. Heddiw fe'i gwelir yn hedfan ymhobman fel arwyddlun amlwg o'r wlad.

