Banadl

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Banadl cyffredin

Grŵp o fân-goed bytholwyrdd, lled-fytholwyrdd a deilgoll yn y yr is-deulu Faboideae o'r teulu legume yw'r banadl (unigol, banadlen, weithiau banadl Ffrainc). Ceir tri phrif genera, sef Chamaecytisus, Cytisus a Genista. Perthyn pob genera yn y grŵp hwn i lwyth y Genisteae (syn. Cytiseae). Maent yn perthyn yn agos iawn i'w gilydd ac yn cael eu nodweddu gan deil bychain a phriciau tenau, wedi eu haddasu i amgylchedd tyfu sych. Mae gan y rhan fwyaf o'r mangoed banadl flodau melyn, ond ceir hefyd flodau gwyn, orennaidd, coch, piws neu borffor weithiau.

Perthyn yn agos i'r banadl mae'r eithin a'r laburnum.

Mae'r banadlau i gyd (yn cynnwys Laburnum ac eithin) yn gysefin i Ewrop, Gogledd Affrica a de-orllewin Asia, gyda'r amrywiaeth fwyaf yn ardal y Môr Canoldir.

Creodd y dewiniaid Gwydion ap Dôn a Math y ferch hudolus Blodeuwedd o flodau'r derw, banadl ac erwain, i fod yn wraig i Leu Llaw Gyffes. Ceir ei hanes ym Mhedwaredd Gainc y Mabinogi, sef Math fab Mathonwy.

Dahlia redoute.JPG Eginyn erthygl sydd uchod am blanhigyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill