B. H. Liddell Hart
Oddi ar Wicipedia
Milwr a hanesydd milwrol o Sais oedd Syr Basil Henry Liddell Hart (31 Hydref 1895 – 29 Ionawr 1970) a oedd yn ddamcaniaethwr milwrol blaenllaw rhwng y ddau Ryfel Byd. Ymysg ei lyfrau mae Strategy: The Indirect Approach, Scipio Africanus: Greater Than Napoleon, The History of the Second World War, a T. E. Lawrence: In Arabia and After, un o'r bywgraffiadau am Lawrence o Arabia ag awdurdodwyd ganddo (y llall oedd Lawrence and the Arabs gan Robert Graves).
Bu o dan archwiliad cudd gan yr MI5 am beth amser gan iddynt ei amau o ollwng gwybodaeth i'r Almaen am ymosodiad D-Day.[1]