T. E. Lawrence
| Mae'r erthygl hon yn rhan o gyfres ar T. E. Lawrence |
|
|---|---|
|
Bywyd cynnar • Teulu • Bywyd personol • Y Gwrthryfel Arabaidd • Wedi'r rhyfel • Y llenor • Seven Pillars of Wisdom • Clouds Hill • Lawrence of Arabia • Llyfryddiaeth |
|
Milwr, archaeolegydd, ac awdur oedd yr Is-gyrnol Thomas Edward Lawrence, CB, DSO (16 Awst 1888 - 19 Mai 1935) a wasanaethodd yn y Fyddin Brydeinig. Mae'n adnabyddus fel Lawrence o Arabia oherwydd ei ran yng ngwrthryfel yr Arabiaid yn erbyn Ymerodraeth yr Otomaniaid yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Cynnwys |
Bywyd cynnar[golygu]
Hanai hynafiaid Lawrence o Loegr ac Iwerddon, ond fe'i ganed mewn tŷ mawr o gerrig llwyd o'r enw Gorphwysfa (a newidiwyd yn ddiweddarach yn Snowdon Lodge) yn Nhremadog, Gwynedd. Syr Thomas Robert Tighe Chapman, barwnig Eingl-Wyddelig, oedd ei dad a Sarah Lawrence, Albanes ac athrawes Syr Thomas oedd ei fam. Astudiodd archaeoleg yn Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, lle cafodd radd dosbarth cyntaf. Ar ôl gorffen ei astudiaethau aeth i Arabia i weithio fel archaeolegydd ac astudio Arabeg.
Yn Arabia[golygu]
O 1914 ymlaen roedd yn gweithio gyda'r British Military Intelligence yng Nghairo, yr Aifft. Ym 1916 cafodd ei yrru i Arabia i wneud adroddiad am fudiad cenedlaethol yr Arabiaid. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd e'n rhan o luoedd afreolaidd yr Arabiaid o dan yr Emir Feisal, yn brwydro yn erbyn y Twrciaid ac yn ceisio argyhoeddi'r Arabiaid i gydweithio â Phrydain. Roedd Lawrence yno pan gipiwyd trefi Aqaba (de Gwlad Iorddonen) ym 1917 a Damascus (prifddinas Syria heddiw) ym 1918.
Blynyddoedd wedi'r rhyfel[golygu]
Ar ôl dychwelyd i Brydain gweithiodd gyda'r lluoedd arfog Prydeinig am ychydig, ac yna canolbwyntiodd ar ysgrifennu.
Marwolaeth[golygu]
Anafwyd Lawrence mewn damwain ffordd ar ei feic modur Brough Superior SS100 ger ei fwthyn Clouds Hill yn Dorset, de Lloegr. Oherwydd pant yn y ffordd, ni welodd dau fachgen ar eu beiciau, a phan gwyrodd i'w osgoi nhw fe daflwyd Lawrence o'i feic. Bu farw chwe niwrnod yn ddiweddarach ar 19 Mai 1935. Claddwyd ym Mynwent Moreton.
Y niwrofeddyg Hugh Cairns oedd un o'r meddygon a wnaeth drin Lawrence. O ganlyniad i'w farwolaeth, ymchwiliodd Cairns i ddamweiniau beiciau modur, gan arwain at ddeddfwriaeth i wneud helmedau yn orfodol ar feicwyr modur yn y Deyrnas Unedig.[1]
Etifeddiaeth[golygu]
Plannwyd coeden yn yr union fan lle digwyddodd y ddamwain ffordd, i gofio Lawrence, a saif cofeb garreg gerllaw. Crewyd cerflun o Lawrence mewn gwisg Arabaidd gan ei ffrind Eric Kennington sydd i'w weld yn Eglwys Sant Martin yn Wareham, Dorset.
Ar 29 Ionawr 1936 dadorchuddiwyd penddelw, o Lawrence a wnaed gan Kennington ym 1926, yn Eglwys Gadeiriol Sant Pawl mewn seremoni gan yr Arglwydd Halifax.
Bellach mae cartref Lawrence yn Dorset, Clouds Hill, yn amgueddfa a gedwir gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Ffilm[golygu]
Gwnaed ffilm ar ei fywyd, ffilm a enillodd saith gwobr Oscar. Ffilmiwyd sawl golygfa 'anialwch' ym Merthyr Mawr ger Pen-y-bont ar Ogwr, lle mae'r twyni tywod mwyaf yn Ewrop. Anfarwolwyd Lawrence yn y ffilm gan yr actor Peter O'Toole.
Cyfeiriadau[golygu]
- ↑ Maartens, Nicholas F. F.R.C.S.(SN); Wills, Andrew D. M.R.C.S.; Adams, Christopher B.T. M.A., M.Ch., F.R.C.S. (Ionawr 2002). "Lawrence of Arabia, Sir Hugh Cairns, and the Origin of Motorcycle Helmets". Neurosurgery 50 (1): 176–80. http://www.neurosurgery-online.com/pt/re/neurosurg/abstract.00006123-200201000-00026.htm;jsessionid=LjXXhLWV91Gj2H4GlTrvw2pbgDqDFHTmB0h0WsgfvpzLQpXr3QxY!-341159882!181195629!8091!-1. Adalwyd 10 Medi 2012 ).
Llyfryddiaeth[golygu]
Llyfrau gan Lawrence[golygu]
- The Seven Pillars of Wisdom. (ISBN 0-8488-0562-3)
- Revolt in the Desert, talfyriad o Seven Pillars of Wisdom. (ISBN 1-56619-275-7)
- The Mint, hanes ei wasanaeth yn yr Awyrlu Brenhinol. (ISBN 0-393-00196-2)
- Crusader Castles, archaeoleg. (ISBN 0-19-822964-X)
- The Odyssey of Homer, cyfieithiad o'r Roeg. (ISBN 0-19-506818-1)
- The Letters of T.E. Lawrence, gol. Malcolm Brown. (ISBN 0-460-04733-7)
- The Letters of T.E. Lawrence, gol. David Garnett. (ISBN 0-88355-856-4)
Llyfrau am Lawrence[golygu]
- The Forest Giant, gan Adrien Le Corbeau, cyfieithiad o'r nofel Ffrangeg, 1924.
- Lawrence of Arabia and His World, gan Richard Perceval Graves.
- T. E. Lawrence by His Friends, Doubleday Doran (1937)