Asid swlffwrig
Oddi ar Wicipedia
Asid cryf ydy asid swlffwrig (neu asid sylffwrig), H2SO4. Mae'n hydoddi mewn dŵr, ni waeth pa mor gryf ydyw. Bathodd alcemydd Mwslemaidd o'r 8fed ganrif, sef Jabir ibn Hayyan, y term olew fitriol i'w ddisgrifio, ar ôl iddo ei ddarganfod. Vitriol neu vitreus oedd y gair Lladin am wydr gan fod yr halennau swlffad yn edrych fel gwydr.
Caiff ei ddefnyddio'n helaeth; yn wir mae'n un o ddeunyddiau mwyaf poblogaidd y diwydiant cemeg. Yn 2001 roedd y byd yn cynhyrchu 165 miliwn tunnell ohono, gyda gwerth yr asid biliwn doler UDA. Fe'i defnyddir i brosesu mwynau ac i gynhyrchu gwrtaith. Caiff hefyd ei ddefnyddio yn y broses o buro olew a chemegolion eraill.
Fe'i ceir mewn glaw asid, batris ac yn atmosffer y blaned Gwener.