Asid fformig

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Formic-acid.png
Formic-acid-3D-balls-B.png

Asid gwan yw 'asid fformig, y symlaf o deulu o asidau o'r enw asid carbocsylig, ac fe adnabyddwn ef weithiau gyda'r enw 'asid methanoig'. Ei fformiwl gemegol ydyw HCOOH or CH2O2.

Mae'n digwydd ym myd natur; fe'i ceir ym mhigiad y morgrugyn er enghraifft, yn ogystal â'r wenynen. Mae hefyd yn gynnyrch tannwydd amgen cerbydau diweddar sy'n llosgi methanol ac ethanol os yw'n cael ei halogi gan ddŵr a gasolin.

O'r gair Lladin formica y daw ei enw (fel llawer o enwau gwyddonol), ystyr formica ydy morgrugyn ac roedd morgrug yn cael eu distyllu gan y Rhufeiniaid mewn fats mawr er mwyn creu asid fformig!

[golygu] Y defydd ohono

I brisyrfio bwyd ac fel asiant gwrthfacteria gwartheg y caiff ei ddefnyddio fynychaf. Mae gwair wedi cael ei chwistrellu gan asid fformig yn para'n hirach gan nad yw'n pydru mor gyflym. Gall hefyd ladd bacteria samonela mewn bwyd ieir.

Fe'i cysylltir hefyd gyda datblygiadau diweddar iawn gyda chell dannwydd.

Science-symbol-2.svg Eginyn erthygl sydd uchod am wyddoniaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato