Asafoetida

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Asiffeta
Ferula scorodosma neu assa-foetida
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosperms
Ddim wedi'i restru: Eudicots
Ddim wedi'i restru: Asterids
Urdd: Apiales
Teulu: Apiaceae
Genws: Ferula
Rhywogaeth: F. assa-foetida
Enw deuenwol
Ferula assa-foetida
L.

Gwm planhigion arbennig, wedi'i sychu ydy Asafoetida, neu asifftea ar lafar gwlad (Ferula assa-foetida) /æsəˈfɛtɨdə/,[1]; caiff ei wasgu allan o risomau tanddaearol gwreiddiau nifer o rywogaethau'r Ferula, sy'n llysieuyn blynyddol tua 1 - 5 metr o uchder. O Afghanistan y daw'r planhigyn yn wreiddiol, a chaiff bellach ei dyfu yn India.[2] Credir fod ganddo rinweddau meddygol ac mae iddo arogl cryf iawn fel arfer; pan gaiff ei sychu a'i ddefnyddio mewn coginio, fodd bynnag, mae ei arogl yn fwyn ac yn debyg i arogl ygehninen.

Jariau o asiffeta ar gyfer y gegin.

Enwau eraill arno ydyw bwyd y duwiau, asant, gwm drewllyd, jowani badian a cachu'r diafol.[3] Defnyddiwyd y gair ers dros canrif yn y Gymraeg fel ebychiad tebyg i "nefi blw!"

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Oxford English Dictionary. "asafœtida". Ail gyfrol, 1989.
  2. http://www.indianspices.com/html/s062hasf.htm
  3. Literature Search Unit (Jan 2013). Ferula Asafoetida: Stinking Gum. Scientific literature search through SciFinder on Ferula asafetida. Indian Institute of Integrative Medicine.