Aonach Beag (1234 m)
| Aonach Beag (Ucheldir yr Alban) |
|
|---|---|
| Cyfieithiad | Y copa bychan |
| Iaith | Gaeleg yr Alban |
| Testun y llun | Aonach Beag o Aonach Mòr |
| Uchder (m) | 1234 |
| Uchder (tr) | 4049 |
| Amlygrwydd (m) | 404 |
| Lleoliad | Mynyddoedd y Grampians |
| Map topograffig | Landranger 41; Explorer 392 |
| Cyfesurynnau OS | NN197715 |
| Gwlad | yr Alban |
| Dosbarthiad | Marilyn, Munro a HuMP |
Mae Aonach Beag yn gopa mynydd a geir ym mynyddoedd y Grampians, yng ngogledd-orllewin Ucheldir yr Alban; cyfeiriad grid NN197715. Ceir carnedd ar y copa. Saif y mynydd tua 3 km i'r dwyrain o'r fam fynydd, sef Ben Nevis.
Mae'r enwau'n gamarweiniol: "beag" ydy "bach" a "Mòr" ydy mawr. Ond mae copa Aonach Beag yn uwch na chopa Aonach Mòr! Gelir cyfiawnhau'r enwau gan fod Aonach Beag yn llai o fynydd o ran mas, ond nid uchder.
Y daith hawddaf i'r copa ydy drwy fynd ar lifft-sgio Aonach Mòr, ac ymlaen i'r mynydd hwn, neu drwy gerdded o Glen Nevis.
Dosberthir copaon yr Alban yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn, Munro a HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Ailfesurwyd uchder y copa hwn ddiwethaf ar 15 Ionawr 2003.
Gwneir bob ymdrech i ganfod yr enw yn yr iaith wreiddiol, a gwerthfawrogwn eich cymorth os gwyddoch yr enw Gaeleg.
Gweler hefyd [golygu]
- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr copaon yr Alban dros 610 metr
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 3,000' (y Munros)