Ben Nevis

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Coordinates: 56°47′48″N 5°00′22″W / 56.796803°N 5.006007°W / 56.796803; -5.006007
Ben Nevis
(Ucheldir yr Alban)
Ben Nevis o Banavie. Mae'r copa i'r chwith o'r llun, a thros y grib ucha a welir.
Cyfieithiad Mynydd y Cymylau
Iaith Gaeleg yr Alban
Testun y llun Ben Nevis o Banavie. Mae'r copa i'r chwith o'r llun, a thros y grib ucha a welir.
Uchder (m) 1344
Uchder (tr) 4409
Amlygrwydd (m) 1344
Lleoliad Mynyddoedd y Grampians
Map topograffig Landranger 41;
Explorer 392
Cyfesurynnau OS NN166712
Gwlad yr Alban
Dosbarthiad Marilyn, Munro a HuMP
Ben Nevis is located in Yr Alban
Ben Nevis (Yr Alban)

Ben Nevis (Gaeleg Beinn Nibheis: 1344m) yw'r mynydd uchaf yn yr Alban (gweler Munro) ac Ynysoedd Prydain i gyd; nid oes ganddo felly fam-fynydd. Mae yn ardal Lochaber ger Fort William yn Ucheldiroedd yr Alban; cyfeiriad grid NN166712.

Ystyr yr enw Gaeleg yw naill ai "Mynydd Cuchog" neu "Mynydd y Cymylau", "Mynydd y Nefoedd", gan ei fod mor uchel. Mae'n un o wyth copa yn yr Alban sydd dros 4,000'. Mae crib yn cysylltu Ben Nevis â'i gymydog Carn Mòr Dearg.

Mae "Ben" yn boblogaidd iawn gan ymwelwyr (mae tua 100,000 yn cerdded i'r copa bob blwyddyn) ac mae hyn wedi creu problemau amgylcheddol wrth i lwybrau gael eu herydu a phobl gadael sbwriel ar eu holau.

Y llwybr hawsaf yw "Llwybr y Twristiaid", sy'n hir ond hawdd i gerddwyr. Ond ceir sawl llwybr mwy anturus ac mae clogwyni'r gogledd yn enwog am eu dringfeydd caled, yn arbennig yn y gaeaf a'r gwanwyn pan fo'r rhew yn galed.

Am fap yn dangos lleoliad Ben Nevis, gweler Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 3,000' (y Munros) (Adran 4). Dosberthir copaon yr Alban yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn, Munro a HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Ailfesurwyd uchder y copa hwn ddiwethaf ar 28 Hydref 2001.

Ym 2004, cyhoeddodd y cylchgrawn mynydda "Trail" gyfarwyddiadau anghywir a pheryglus sut i fynd i lawr o'r copa. [1]

Cyfeiriadau[golygu]

Gweler hefyd[golygu]

Dolennau allanol[golygu]